Dyn ar goll yng Ngroeg: Tîm achub mynydd yn dychwelyd

  • Cyhoeddwyd
John TossellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Tossell wedi bod ar goll ar ynys Zante ers 17 Mehefin

Mae tîm achub mynydd wedi dychwelyd i Gymru ar ôl iddyn nhw fethu â chanfod Cymro sydd ar goll yng Ngroeg.

Ni ddychwelodd John Tossell, 73, i'w westy ar ôl mynd i gerdded ar Fynydd Skopos ar ynys Zante ar 17 Mehefin.

Roedd Mr Tossell, o Ben-y-bont ar Ogwr, ar wyliau gyda'i wraig, Gill ar yr ynys ers 14 Mehefin.

Bu'r gwasanaethau brys lleol yn chwilio amdano am wythnos cyn lleihau eu hymdrechion.

Ond yn dilyn ymgyrch i godi arian llwyddwyd i gasglu bron i £7,000 er mwyn ariannu Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau i hedfan i'r ynys i ailddechrau'r ymgyrch.

Ffynhonnell y llun, Dominik Rosner
Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Tossell wedi mynd i gerdded mynyddoedd yr ynys pan aeth ar goll

Aeth chwe aelod o'r tîm yno ar 28 Mehefin, cyn i saith arall ymuno â'r grŵp dros y dyddiau wedi hynny.

Ond ar ôl chwilio am wythnos dydy'r tîm na'r gwasanaethau brys lleol wedi canfod unrhyw arwydd o Mr Tossell.

'Ymgyrch helaeth'

"Ar ôl ymgyrch helaeth rydyn ni wedi dod â'n gwaith o chwilio am John Tossell ar Zante i ben, a bydd ein 13 o wirfoddolwyr yn dychwelyd i'r DU," meddai llefarydd o Dîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau.

"Diolch i'r teuluoedd a'r cyflogwyr sydd wedi cefnogi ein hymgyrch.

"Yn anffodus mae lleoliad John yn parhau'n anhysbys.

"Roedd yn fraint i ni fel elusen i helpu cefnogi teulu o'n cymuned leol gan chwilio am John, ac rydym yn meddwl am ei deulu yn ystod yr amser anodd hwn."