'Angen triniaeth niwrolegol mwy tymor hir i gleifion'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion yn cael eu hannog i wella'r driniaeth tymor hir sydd ar gael i gleifion yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'w ymennydd.
Mae rhywun yn mynd i'r ysbyty oherwydd anaf i'r ymennydd bob 90 eiliad yn y DU.
Yn ôl AS y Rhondda, Chris Bryant mae angen gwneud gwelliannau mawr i wasanaethau adfer, sy'n cael eu cefnogi gan elusennau a gofalwyr preifat.
Does dim canolfan arbenigol yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf, er enghraifft, ond mae gweinidogion yn dweud eu bod yn ymdrechu i wella'r ffordd mae cleifion yn cael mynediad i wasanaethau.
Wrth sôn am gynlluniau ar gyfer canolfan trawma newydd yn ne Cymru, dwedodd Mr Bryant y dylai Llywodraeth Cymru "sicrhau fod 'na gymorth i gefnogi pobl nid yn unig wrth achub eu bywydau, ond wedi hyn er mwyn helpu i roi safon bywyd da i bobl hefyd."
Fe ddisgynnodd Ben Newman, 33 o'r Rhondda, drwy ffenest 10 mlynedd yn ôl tra'i fod o allan gyda'i ffrindiau.
Wedi'r ddamwain, bu mewn coma yn Ysbyty Frenhinol Morgannwg, Llantrisant am dridiau, ond wedi iddo brofi y gallai gerdded lawr set o risiau, cafodd ei ryddhau o fewn tair wythnos.
Yn y blynyddoedd wedyn, roedd rhaid i Mr Newman ymdopi ag anawsterau gyda'i falans, newidiadau i'w bersonoliaeth, cof a lleferydd, ac fe ddaeth i fod yn ddibynnol ar ofal tymor hir.
Dwedodd ei lysdad, Phil Williams mai dim ond oherwydd gwaith caled ei fam y llwyddodd Mr Newman i gael hyd i wasanaethau oedd yn gallu ei helpu.
Hyd yn oed wedyn roedd raid iddo deithio i Gaerdydd sawl tro yn ystod yr wythnos er mwyn derbyn y gofal.
"Beth oedd yn amlwg i ni oedd y diffyg cefnogaeth parod. Doedd 'na ddim cynllun tymor hir i Ben. Roedd e'n ddibynnol ar allu ei fam i chwilio ar y we am y gwasanaethau hyn," meddai.
'Dal i frwydro'
Degawd ar ôl y ddamwain mae'r effaith ar fywyd Mr Newman dal yn amlwg: "Sai'n hoffi bod mewn grwpiau mawr. Allai ddim bod mewn mwy nag un trafodaeth ar y pryd. Hyd yn oed nawr, 10 mlynedd yn hwyrach, 'wi dal i frwydro 'da hwnna."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi ymrwymo i wella'r ffordd y mae pobl yn cael mynediad i wasanaethau niwrolegol yng Nghymru.
"Mae ein cynllun yn rhoi manylion am sut all bobl ddod o hyd i ofal amserol ag effeithiol lle bynnag y maen nhw'n byw, boed y gofal yn cael ei roi trwy ysbytai neu'r gymuned.
"Mae'r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar helpu pobl i fyw gyda'u cyflwr, ac yn anelu at gynyddu gwybodaeth a chefnogi ymchwil i mewn i driniaethau."
Bydd rhaglen Sunday Politics Wales ar BBC One Wales am 11:00 ar 7 Gorffennaf ac yna ar yr iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019