Arestio dau wedi protest amgylcheddol y tu allan i fanc
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â phrotest y tu allan i fanc yng Nghaerfyrddin.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys fe gawson nhw eu galw am 09:35 dydd Sadwrn ar ôl derbyn adroddiad fod protestwyr y tu allan i Fanc Barclays ar Sgwâr y Guildhall yn y dref.
Dywedodd un o ohebwyr BBC Cymru bod rhai wedi gludo eu hunain i Fanc Barclays ar Sgwâr y Guildhall bod gan eraill o'r protestwyr gloeon beic o amgylch ei gyddfau.
Yn ôl llefarydd ar ran y grŵp ymgyrchu Extintion Rebellion roedd yr unigolion yn protestio yn erbyn buddsoddiadau Barclays mewn tanwydd ffosiledig.
Mae'r ddau a gafodd eu harestio yn parhau yn y ddalfa, meddai'r heddlu.
Cafwyd protest hefyd y tu allan i gangen y banc yn Aberystwyth.