Thomas yn syrthio yng nghymal cyntaf Tour de France
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi syrthio yn ystod cymal cyntaf ras seiclo enwocaf y byd, y Tour de France.
Yn ôl ei dîm Ineos fe darodd Thomas, 33, yn erbyn ffens tuag at ddiwedd y ras a gychwynnodd ym Mrwsel yn gynharach dydd Sadwrn.
Mae'n ymddangos ei fod wedi camu'n ôl ar y beic yn fuan wedi'r gwrthdrawiad, a'i fod wedi cwblhau'r ras.
Ond oherwydd i'r ddamwain ddigwydd lai na 3km o'r llinell derfyn, wnaeth y Cymro ddim colli unrhyw amser.
Ar ôl cwblhau'r ras dywedodd Thomas ei bod hi'n lwcus na chafodd niwed fawr, a bod popeth yn iawn.
Mike Teunissen enillodd y cymal cyntaf wedi i nifer fawr o seiclwyr eraill gael eu dal mewn tagfa wedi'r ddamwain.
Nid dyma'r tro cyntaf y tymor hwn i Thomas syrthio oddi ar ei feic yn ystod ras - cafodd ddamwain fis Mehefin gan anafu ei ysgwydd a'i wyneb uchben ei lygad.
Mae Thomas yn dweud ei fod yn ffyddiog o ddal gafael ar ei deitl, ac ar gychwyn y ras ym mhrifddinas Gwlad Belg roedd yn gwisgo rhif 1 ar ei grys.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y Cymro 33 oed yn lliwiau tîm Ineos ar ôl i'r tîm ddod â'r cytundeb gyda'u noddwyr Sky i ben y llynedd.
Yn cadw cwmni iddo yn y tîm mae Cymro arall, Luke Rowe, sydd wedi rasio yn yr un tîm a Geraint Thomas yn y Tour de France ers 2015.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y cymal cyntaf yn mynd a'r seiclwyr ar siwrnai 194.5km o hyd ar draws wastatiroedd Gwlad Belg, gan orffen gerllaw'r Palas Brenhinol yn ôl ym Mrwsel.
Hon fydd 106ed ras y Tour de France a hefyd 100 mlwyddiant y crys melyn.
Cafodd Brwsel ei ddewis fel man cychwyn y daith eleni er mwyn nodi 50 mlynedd ers i'r seiclwr nodedig o Wlad Belg, Eddy Mercx, ennill y gyntaf o'i pum teitl Tour de France.
Croeso i'r Cymry
Ymhlith y miloedd o bobl a oedd ar ochr y llwybr i gefnogi'r seiclwyr yn ystod eu cymal cyntaf oedd dau deulu o Gymru, sy'n byw ym Mrwsel.
"Roedd y ras yn pasio heibio ein tŷ ni," meddai Gwydion Lyn sydd yn byw yn Tervuern gyda'i wraig Elin a'u merched Mari a Fflur,
"Roedd yn rhaid i ni fod yna i gefnogi'r achlysur, ac wrth gwrs i gefnogi Geraint Thomas."
Fe arhoson nhw, a theulu arall, am ddwy awr ar ochr y ffordd cyn i'r seiclwyr wibio heibio.
"Fe ddechreuodd pethau rhyw ddwy awr cyn i ni weld y seiclwyr, achos roedd cwmnïau sy'n noddi'r gystadleuaeth yn teithio ar hyd llwybr y ras yn rhoi nwyddau bach i'r plant," meddai.
"Mae seiclo yn rhan annatod o fywyd yng Ngwlad Belg, a hi ydy'r prif chwaraeon i nifer fawr o bobl yma, ac roedd hi'n braf cael bod yma'n dathlu gyda Chymry eraill, a gweld Geraint, wrth gwrs!
"Roedd hi'n brofiad hyfryd i ni i gyd."