Geraint Thomas 'yn holliach' i'r Tour de France
- Cyhoeddwyd
Mae'r seiclwr Geraint Thomas yn dweud y bydd yn holliach i gystadlu yn y Tour de France yn dilyn damwain wrth rasio ddydd Mawrth.
Cafodd y Cymro - pencampwr y Tour de France llynedd - ei gludo i'r ysbyty yn dilyn damwain ar y Tour de Suisse.
Dywedodd Tîm Ineos bod Thomas wedi cael anafiadau i'w ysgwydd ac i'w wyneb uwchben ei lygad, ond nad oedden nhw'n rai difrifol.
Dywedodd Thomas, 33: "Yn amlwg mae'n rhwystredig ac yn ergyd fach.
"Ond mae digon o amser cyn i ni ddechrau ym Mrwsel [ar 6 Gorffennaf]."
Dywedodd meddyg y tîm Derick Macleod ei fod yn "ffyddiog y bydd yn gwella'n llawn dros y dyddiau nesaf" ac y byddai "yn ôl ar ei feic yn y dyddiau nesaf".
Mae Tîm Ineos eisoes wedi colli Chris Froome, sydd wedi ennill y Tour ar bedwar achlysur, fydd allan o'r gamp am o leiaf chwe mis wedi iddo gael damwain ddrwg yr wythnos ddiwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019