Rhagor o achosion o ffliw ceffylau yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Ffliw CeffylauFfynhonnell y llun, Dan Kitwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffliw ceffylau'n haint hynod beryglus i'r anifeiliaid

Mae rhagor o achosion o ffliw ceffylau wedi cael eu cadarnhau yn y gogledd.

Yn ôl Milfeddygon Bodrwnsiwn mae achosion wedi cael eu cadarnhau mewn dau leoliad arall yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn.

Maen nhw hefyd yn amau bod achos arall yn ardal Dolgellau.

Diwedd mis Mehefin daeth cadarnhad fod pum anifail ym Mwlchwyn ger Wrecsam yn dioddef o'r ffliw.

Yn dilyn pryderon am nifer cynyddol o'r haint cafodd Sioe Caernarfon, oedd i fod i ddigwydd ar 6 Gorffennaf, ei chanslo.

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd y milfeddygon: "Rydyn ni wedi cael cadarnhad gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd Anifeiliaid fod y holl samplau a gafodd eu casglu o'r ddau safle o dan ystyriaeth wedi cadarnhau fod yna achosion o ffliw ceffylau yno.

"Rydyn ni wedi darganfod bod cysylltiad rhwng y ddau achos a'u bod nhw wedi mynychu sioe Llanrwst penwythnos diwethaf.

"Ein cyngor i berchnogion ydy i gadw eu hanifeiliaid adref am y tro nes bod modd asesu yn gywir pa mor bell mae'r firws wedi ymledu."