Canslo rasys yn Ffos Las oherwydd ffliw ceffylau
- Cyhoeddwyd
Mae rasys yng Nghae Rasio Ffos Las ger Llanelli wedi cael eu canslo oherwydd pryderon am iechyd y ceffylau.
Penderfynodd Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain (BHA) ganslo pob un ras yn y DU ddydd Iau ar ôl derbyn cadarnhad bod gan dri cheffyl achos o ffliw ceffyl (Equine Influenza).
Daeth i'r amlwg bod y tri cheffyl wedi rasio yn Ayr a Llwydlo ddydd Mercher, gan beryglu nifer o geffylau eraill.
Dywedodd y BHA eu bod nhw'n "bryderus iawn am les yr anifeiliaid ac am y lledaenu posib", a'u bod yn gwneud eu gorau i osgoi achosion pellach o'r salwch.
Mae ceffylau sy'n dioddef o'r salwch yn gallu datblygu gwres uchel, peswch a chwyddo ar y gwddf.
Fel arfer mae'n cymryd dyddiau i ddod dros y salwch, ond mae rhai achosion yn gallu parhau am wythnosau neu hyd yn oed misoedd.
Nid yw'r salwch yn cael unrhyw effaith ar bobl.