Côr o Gymru ydy Côr y Byd Eisteddfod Llangollen
- Cyhoeddwyd
Côr o Gymru sydd wedi cipio'r brif wobr corawl a thlws Luciano Pavarotti yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Côr Dynion Johns Boys o Rhosllanerchrugog ydy'r trydydd cor o Gymru i gipio teitl Côr y Byd.
Ar y prif lwyfan nos Sadwrn fe dderbyniodd y côr eu gwobr ar ôl curo enillwyr y pedwar cystadleuaeth corawl arall i oedolion.
Roedd côr CF1 o Gaerdydd hefyd yn y rownd derfynol ar ôl ennill y gystadleuaeth Côr Cymysg yn gynharach dydd Sadwrn.
"Roedd hi'n brofiad anhygoel ac eithaf emosiynol ar y llwyfan neithiwr," meddai Aled Roberts sy'n aelod o'r côr. "Ond eto roedd hi'n brofiad braf, gan wybod ein bod ni wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth o safon uchel."
Cafodd Côr Dynion Johns Boys eu ffurfio tair blynedd yn ôl er mwyn perfformio mewn Noson Lawen yn y Stiwt yn Rhos, er cof am ddau o arweinwyr corawl yr ardal, sef John Glyn Williams a John Tudor Davies.
Ers hynny mae'r criw, sy'n ymarfer unwaith y mis gan amlaf, wedi profi tipyn o lwyddiant, gan ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Corau Meibion yng nghystadleuaeth Côr Cymru eleni.
"Dod at ein gilydd nethon ni yn wreiddiol i berfformio yn y noson arbennig i gofio'r ddau John", meddai Mr Roberts, "ac yna roedd yna nifer ohonon ni'n teimlo ein bod ni eisiau parhau i ganu efo'n gilydd.
"Mae'r côr yn eithriadol o bwysig i ni i gyd, achos mae gan y mwyafrif gysylltiad â'r Rhos, ac mae'r côr hwn yn parhau gyda'r traddodiad yna sydd gennym ni yn y dre o gorau meibion."
Cywair, o Gastell Newydd Emlyn, oedd y côr diwethaf o Gymru i gipio'r brif wobr, a hynny yn 2005. Fe wnaeth y Sirenian Singers o Wrecsam ennill y teitl yn 1998.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018