Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn wynebu 'cyfnod anodd'

  • Cyhoeddwyd
Kamal Sharma ar lwyfan Lindop Toyota
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnwyr yn ystyried newid y rheolau drwy gyfuno dawnsio traddodiadol gydag elfennau newydd fel dawnsio stryd

Ar drothwy Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon mae'r trefnwyr yn rhybuddio eu bod yn wynebu "cyfnod anodd" a bod rhaid i'r ŵyl fod yn fwy "modern a pherthnasol".

Mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal yn flynyddol yn y dref yn Sir Ddinbych ers 70 mlynedd, gan ddenu 40,000 o ymwelwyr y llynedd.

Ond mae eu datganiad ariannol diweddaraf yn dangos bod y diffyg cyllidol wedi cynyddu'r llynedd oherwydd gwerthiant siomedig o docynnau i rai cyngherddau nos.

Fe gollodd yr ŵyl ei Chyfarwyddwr Cerdd, y pianydd Vicky Yannoula, y llynedd hefyd ar ôl blwyddyn yn unig yn y swydd.

Wrth i Eisteddfod agor eleni, dywedodd y cadeirydd Dr Rhys Davies wrth BBC Cymru: "Bydd yn anodd iawn.

"'Da ni wedi cael problemau y llynedd so gobeithio bydd popeth yn olreit. Ond mae'n rhaid i ni newid be 'da ni'n wneud yma yn Llangollen.

"Os 'da ni ddim yn newid, dwi'n siŵr bydd popeth yn mynd yn waeth. Rhaid i ni ddenu mwy o bobl i'r Eisteddfod."

Gwerthiant 'siomedig'

Dywedodd Dr Davies hefyd fod gwerthiant tocynnau eleni wedi bod yn siomedig o araf, er bod pethau wedi gwella yn yr wythnosau diwethaf.

Fe gafodd yr Eisteddfod Ryngwladol ei sefydlu yn nyffryn Dyfrdwy yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ers hynny, mae wedi denu cerddorion a dawnswyr yn bennaf i gystadlu o bedwar ban byd, a hynny yn enw heddwch.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond blwyddyn y buodd Vicky Yannoula yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod

Bellach, mae'r ŵyl hefyd yn cynnig rhaglen o gyngherddau nos a gŵyl roc Llanfest ar y Sul olaf.

Ond yn ôl eu datganiad ariannol yn 2018 fe gynyddodd y diffyg cyllidol o £5,860 yn 2017 i £21,127 yn 2018.

Mae'r ddogfen yn nodi bod yr ymddiriedolwyr yn "ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau ariannol llym fydd eu hangen yn y blynyddoedd nesaf" a'u bod am fonitro pethau'n ofalus i sicrhau bod yr Eisteddfod yn gynaliadwy.

Mae'r ŵyl wedi derbyn £75,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda marchnata dros y tair blynedd nesaf ac mae'r trefnwyr yn dweud eu bod yn trafod cyllid ychwanegol gyda'r llywodraeth a phartneriaid eraill.

Ers ymadawiad Ms Yannoula mae'r Eisteddfod Ryngwladol hefyd wedi penodi Dr Edward Rhys Harry fel Cyfarwyddwr Cerdd newydd.

Ychydig o newid sydd wedi ei gyflwyno eleni, ond yn ôl Dr Harry gallai'r newid yn y blynyddoedd nesaf gael ei ystyried yn "radical".

"Bydd rhaid i ni fel gŵyl foderneiddio i wneud yn siŵr bod pobl yn dod i weld beth sy'n digwydd yma," meddai.

"Bydd rhaid i ni fod yn contemporary a hefyd bydd rhaid i ni gydbwyso'r pethau hynny gyda'r pethau traddodiadol ac ar hyn o bryd dyna beth yw'r drafodaeth yma yn Llangollen.

"Mae newid yn boenus i bawb ac felly i fod yn onest bydd rhaid i'r newid ddod. Ond bydd rhaid i ni newid yn llym ac wrth gamau bach."