'Galw mawr' am gadeiriau olwyn sbâr i fynd dramor

  • Cyhoeddwyd
bachgen ar gadair olwyn yn DurbanFfynhonnell y llun, Jim Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Bachgen yn Durban, De Affrica gydag un o'r cadeiriau olwyn gafodd eu rhoi

Mae grŵp sydd yn anfon cadeiriau olwyn, fframiau cerdded a sbectolau dramor i bobl mewn angen yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd ateb y galw.

Rhoi cymorth i bobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl yw gwaith dydd i ddydd Fferm Ofal Clynfyw yn Sir Benfro.

Ond ers 2013 maen nhw hefyd wedi bod yn anfon eitemau i Syria, Kenya a De Affrica drwy eu cynllun Wheelie Good Idea.

Fel arfer mae'r eitemau'n cael eu casglu o ysbytai, cartrefi gofal a thomenni sbwriel, a hyd yn hyn maen nhw wedi anfon llwyth o offer dramor.

"Rydyn ni'n dibynnu ar roddion, o bobl sydd newydd golli nain, neu ysbytai neu gartrefi gofal - miloedd o eitemau fyddai fel arall yn mynd i'r bin," meddai Jim Bowen, sy'n rhedeg y fenter.

"Rydyn ni wedi anfon llwythi i Dde Affrica, Syria a Kenya. A dweud y gwir mae'n anodd cadw lan gyda'r galw ac allwn ni ddim ymdopi.

"Mae cymaint o bethau'n dod mewn - byddai'n grêt os oedd grwpiau eraill eisiau dechrau."

Ffynhonnell y llun, Jim Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fenter wedi anfon 11 llwyth o offer dramor yn barod

Mae'r prosiect hefyd wedi gweithio gyda ffoaduriaid yn Syria, Yemen a Gaza, ac fe fydd y llwyth nesaf o offer i adael Sir Benfro yn teithio i India.

Yn ôl Mr Bowen mae'r gwaith hefyd yn helpu'r amgylchedd wrth sicrhau bod ysbytai yn gallu lleihau eu hôl troed carbon wrth anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi.

"Rydyn ni eisiau gwneud ein cymunedau'n well a datblygu diwylliant o adnewyddu, gan helpu pobl fan hyn a thu hwnt."