Gwerthu gwaith Kyffin er mwyn cael arian am wersi celf

  • Cyhoeddwyd
Llun gan yr artist Kyffin WilliamsFfynhonnell y llun, Arwerthwyr Rogers Jones/Syr Kyffin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y print yma, gafodd ei roi i'r ysgol gan Syr Kyffin Williams, ei werthu am £1,000

Mae ysgol gynradd yng Ngwynedd wedi gwerthu ei holl waith Syr Kyffin Williams er mwyn cael arian ar gyfer gwersi celf i'r disgyblion.

Fe wnaeth yr artist roi'r printiau yn rhodd i Ysgol Bontnewydd yn 2003 ar ôl mynd yno i drafod ei waith a dysgu'r disgyblion sut i ddarlunio.

Cyrhaeddodd yr ysgol ger Caernarfon gyda bwndel o'i waith a'u gadael yno fel diolch am gael bod yno - ac maen nhw newydd gael eu gwerthu am dros £2,000 mewn arwerthiant yng Nghaerdydd.

Janet Wyn George, oedd yn dysgu plant blwyddyn 6 yn yr ysgol ar y pryd, wnaeth drefnu i un o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru ddod at y disgyblion gan eu bod yn gwneud prosiect amdano.

Pan ddaeth hi'n bennaeth yn 2010 fe benderfynodd dynnu'r lluniau oddi ar waliau'r ysgol lle roedden nhw'n cael eu harddangos.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Bontnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Syr Kyffin Williams yn dysgu rhai o ddisgyblion Ysgol Bontnewydd yn 2003

"Nes i benderfynu mai gwaith plant oeddwn i eisiau ar y waliau, felly nes i dynnu nhw i gyd lawr a'u lapio nhw mewn bubblewrap," meddai.

"Fan yna maen nhw wedi bod am rhai blynyddoedd nes i ni benderfynu 'beth am eu cynnig nhw ar werth a chael yr elw i'r ysgol fel bod plant presennol yn cael rhyw elw allan ohonyn nhw?'

"Mae'r we mor dda, os ydyn ni eisiau edrych ar luniau Kyffin Williams, 'da ni'n gallu eu lawrlwytho nhw, a 'da ni'n gweld lluniau bron cystal o ran ansawdd a be' oedd gennym ni dan y bubblewrap.

"Bydd yr arian yn mynd i gronfa'r ysgol, ac o gronfa'r ysgol fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn adnoddau i hybu gwaith celf yn yr ysgol - felly'n gyffredinol i gelf fydd yr arian yn mynd.

"Roedd o'n benderfyniad anodd achos roedd y rhain wedi dod o'i ddwylo fo a doedd o ddim yn fater ein bod ni wedi bod i siop a'u dod â nhw yma, roedden nhw'n anrheg.

Ond fel dywedodd o fel oedd o'n eu rhoi nhw: 'Do with these what you will'."

Cyfanswm o £2,140

Roedd saith print o eiddo'r ysgol ar werth yn Sêl Gymreig yr arwerthwyr Rogers Jones dros y penwythnos.

Roedd copis o ffotograffau gafodd eu tynnu o Syr Kyffin Williams yn gweithio gyda'r disgyblion yn dod gyda phob print.

Gwerthwyd y saith print am £2,140, gyda llun o darw'r Gwartheg Duon Cymreig yn cael ei brynu am £1,000.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Bontnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r lluniau wnaeth Syr Kyffin Williams tra roedd yn ymweld â'r ysgol

Yn ystod ei dair awr yn yr ysgol roedd yr artist o Fôn wedi gwneud lluniau er mwyn dangos gwahanol dechnegau darlunio i'r plant.

Dywedodd Ms George: "Dwi ddim yn gwybod be' ddigwyddodd i'r sketches gwreiddiol wnaeth o ar leoliad. Pe bydden ni wedi gallu cadw'r rheiny..."

Ychwanegodd bod yr artist - fu farw yn 2006, dair blynedd ar ôl ymweld â'r ysgol - wedi sylweddoli bod un o'r disgyblion â thalent i'w feithrin.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Bontnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau'r ysgol yn dangos Syr Kyffin Williams gydag artist y dyfodol - Llŷr Erddyn Davies

"Roedd o wedi mynd at un ar ôl gweld potensial. Dwi'n cofio'r hogyn - Llŷr Erddyn Davies - ac mae o erbyn hyn yn artist ei hun," meddai Ms George.

"Mae o newydd gael arddangosfa yn Galeri Caernarfon ac mae darn o'i gerfluniaeth wedi cael ei arddangos fel rhan o'r estyniad newydd.

"Mae llun o Kyffin gydag o a llun oedd o wedi efelychu, a wir yr, roedd o'n anodd dweud y gwahaniaeth - roedd o gystal â hynny."

Ffynhonnell y llun, Llŷr Erddyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa o waith Llŷr Erddyn Davies yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst, tan 14 Gorffennaf

Dywedodd Llŷr Erddyn Davies: "Un o brofiadau amlycaf i mi yn Ysgol Gynradd Bontnewydd oedd ymweliad Syr Kyffin Williams, a gafodd ei drefnu oherwydd y peintiad wnes i o'i waith 'Teifi Pools'.

"Hwn oedd y profiad cyntaf o gyfarfod artist a chael fy ysbrydoli i arlunio a pheintio."