Archwilio'r archifau i gofnodi 50 mlwyddiant cwmni Sain
- Cyhoeddwyd
![Huw Jones a Dafydd Iwan yn y stiwdio yn y dyddiau cynnar](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B11E/production/_107824354_20190710151803_00001.jpg)
Huw Jones a Dafydd Iwan - dau o gyfarwyddwyr y cwmni yn y dyddiau cynnar - yn y stiwdio
Mae cwmni recordiau Sain yn bwriadu creu arddangosfa fel rhan o ddathliadau hanner-canmlwyddiant y cwmni ar ôl derbyn grant ariannol.
Mae'r cwmni wedi derbyn £38,500 o nawdd gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect.
Bydd y cwmni'n gofyn am gymorth y cyhoedd i archwilio'u harchif am ddelweddau amrywiol er mwyn creu'r arddangosfa.
Y bwriad yw dewis a dethol lluniau neu eitemau eraill i greu murlun fydd yn cyfleu llinell amser y label.
![Huw Jones wrth y ddesg gymysgu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BCCC/production/_107823384_huwjonessain.jpg)
Huw Jones wrth y ddesg yn stiwdio gynta'r cwmni
Dywedodd Ellen Hywel, llefarydd ar ran Sain, bod eu harchif yn "drysor cenedlaethol, ac yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a threftadaeth Cymru".
Eglurodd y gallai'r delweddau fod yn ffotograffau, neu'n wrthrychau megis cloriau recordiau, yn cynnwys gweithiau celf gwreiddiol, feinyls a chryno-ddisgiau, llythyrau a datganiadau, neu unrhyw beth arall o ddiddordeb.
"Er enghraifft, mae gennym hen ffurflenni stiwdio yma, gyda manylion traciau yn llawysgrifen gwahanol artistiaid. Gallai'r rheiny fod o ddiddordeb," meddai.
![Clawr record Dŵr, gan Huw Jones - record gyntaf cwmni Sain](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/D82E/production/_107824355_dwr.jpg)
Dŵr, gan Huw Jones - record gyntaf Sain
Bydd gwirfoddolwyr yn dod i bencadlys y cwmni yn Llandwrog ger Caernarfon er mwyn pori trwy'r archif a dewis y deunyddiau.
"Byddwn yn cynnal mwy o sesiynau ar stondin Sain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst i greu'r arddangosfa dan arweiniad Manon Awst, a bydd yr artist Catrin Williams yn creu'r murlun 'llinell amser' drwy'r wythnos gyda gwirfoddolwyr eraill," meddai Ms Hywel.
Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Medi ac yng Nghanolfan Sain ym mis Hydref ar gyfer y pen-blwydd ei hun ar 9 Hydref.