Ateb y Galw: Y cyfarwyddwr Mared Swain
- Cyhoeddwyd
Y cyfarwyddwr Mared Swain sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddi gael ei henwebu gan Hannah Daniel yr wythnos diwethaf.
Hi yw cyfarwyddwr artistig y cwmni theatr Neontopia. Mae hi hefyd wedi gweithio ar y sgrin fach, ar nifer o gyfresi o'r rhaglen Gwaith Cartref ar S4C, ac mae hi'n gweithio'n llawrydd ar nifer o brosiectau theatr, teledu a ffilm.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fi ddim yn siŵr os mai dyma'r peth cyntaf fi'n cofio, ond o'dd e'n eitha traumatic, felly mae'n sefyll allan!
Nes i anghofio gwisgo knickers i'r ysgol feithrin un diwrnod (gan bod fi'n benderfynol i wisgo fy hun yn ddwy oed, a Mam heb checio'n iawn cyn gadel y tŷ) ond erbyn i fi sylwi bod fi ddim yn gwisgo nics, o'n i ar y bws i'r ysgol feithrin - odd e'n rhy hwyr i neud unrhywbeth, felly nes i guddio fy hun yn y ty bach drwy'r bore yn ysgol feithrin, yn crïo.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Patrick Swayze a Jabas Jones.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
'Nath chwaer fi slapio fi o flaen bachgen o'n i'n ffansio pan o'n i tua wyth. O'n i'n bod yn hollol annoying - ac yn trio cal sylw'r bachgen yma (oedd hi hefyd yn ffansio!) ac yn amlwg o'dd hi di cal llond bol o fy nonsens - so ie, nath hi slapio fi, a nath hwnna gau fy ngheg!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn gwylio Cori Gauff yn curo Venus Williams yn rownd gynta' Wimbledon eleni. O'dd e just yn too much! Dim ond 15 yw hi!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fi'n eitha messy, ma' well gen i gal amser da na thacluso lan… fi'n siŵr bod hwnna'n anodd i fy ngŵr fyw gyda!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Monknash - lle briodes i fy ngŵr.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Hen night fi yn Llunden. Ethon ni i weld Priscilla Queen of the Desert, wedyn i roller disco. Gang o ferched (ac ambell fachgen) gorau erioed yn cal LOADS o hwyl gwirion.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Penderfynol, ffyddlon, drygionus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Ma' 'na gymaint o ffilmie fi'n caru. Mae bron yn amhosib dewis un… Yn y top three mae Pan's Labyrinth, Boogie Nights a Dream Girls.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Chris Hadfield yr astronaut - I mean, mae 'di bod i'r gofod. Mae gen i gymaint o gwestiynau, bydden i yna drwy'r nos!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Sdim un filling gen i yn fy nannedd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Nofio yn y môr, a gwario bob munud gyda fy merched, fy ngŵr a fy nheulu a ffrindiau agos, siŵr o fod yn gwisgo fancy dress a lot o sequins, yn dawnsio a canu a yfed a bwyta bwyd lush.
Beth yw dy hoff gân a pham?
You're the inspiration - Chicago. Mae'n atgoffa fi o ddiwrnod priodas ni - dyna o'dd ein dawns gynta' ni.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail, Fish pie, Chocolate mousse.
O archif Ateb y Galw:
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Donald Trump - er mwyn gallu ymddiswyddo.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Elliw Gwawr