Nodi carreg filltir uno Gorsedd y Beirdd gyda'r Brifwyl
- Cyhoeddwyd
Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghaerfyrddin i nodi union 200 mlynedd ers ymddangosiad cyntaf Gorsedd Y Beirdd mewn Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd y plac ei ddadorchuddio ar safle Gwesty'r Llwyn Iorwg, lle cafodd Prifwyl 1819 ei chynnal, gan yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd.
Mewn araith wedi'r dadorchuddiad fe nododd yr Archddewydd bod angen cryfhau senedd a sefydliadau Cymru ac elwa o'i chyfoeth naturiol.
Y seremoni oedd un o uchafbwyntiau gŵyl wythnos o hyd i ddathlu Eisteddfod 1819.
Gan gyfeirio at sylfaenydd yr Orsedd a nifer o draddodiadau'r Eisteddfod Genedlaethol, fe ofynnodd yr Archdderwydd beth fyddai ymateb Iolo Morganwg "pe bai yn dychwelyd i Gymru heddiw" a gweld bod gan Gymru Senedd a sefydliadau cenedlaethol eraill, ond bod cyfyngiadau o ran manteisio ar adnoddau naturiol.
Dywedodd: "Mae'r grym yn Llundain wedi pasio deddf sy'n rhwystro Cymru rhag gwneud elw o'n dŵr - ac mi rydan ni'n allforio 52% o'n dŵr i Loegr ac mae cwmniau dŵr yn Lloegr yn gwneud elw anferth ohono fo.
"Dwi'n siŵr byddai Iolo Morganwg yn cytuno â wrth i ni ddweud bod angen inni gryfhau ein sefydliadau cenedlaethol er mwyn y dyfodol, cryfhau ein senedd. Croes i hynny sy'n digwydd ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2019