Ateb y Galw: Y gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr
- Cyhoeddwyd

Y gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddi gael ei henwebu gan Mared Swain yr wythnos diwethaf.
Elliw sydd yn gohebu ar hynt a helynt San Steffan i BBC Cymru. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi tri llyfr coginio.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Eistedd adra efo fy nhad a fy mrawd yn aros i fy chwaer fach newydd gyrraedd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Luke Perry o Beverly Hills 90210.

Bu farw Luke Perry, yr 'heart-throb' i nifer ar ddechrau'r 90au, ym mis Chwefror 2019
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fe wnes i fflasio fy nicars ar y Prif Weinidog David Cameron unwaith. Doedd o ddim ar bwrpas, fe wnaeth chwa o wynt chwythu fy sgert i fyny tra roeddwn i'n ceisio ei holi.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ychydig ddyddiau yn ôl, am bod fy mab yn ei ddagrau wrth i mi ei adael yn yr ysgol feithrin. Ond dwi'n feichiog felly dwi'n crïo am bopeth y dyddiau hyn.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n treulio lot gormod o amser ar fy ffôn. Mae fy ngŵr yn cwyno yn gyson fy mod i'n sgwrsio mwy efo ffrindiau ar-lein nag ydw i efo fo fin nos.
Dwi hefyd yn rhegi gormod.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Adra ym Meirionnydd. Unai fyny ar ben mynydd ar ein fferm yn Llanfachreth, neu yn cerdded ar hyd y traeth yn Llanaber.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fe gefais i nosweithiau gwych yn y coleg ym mynd i glybiau drum and bass Llundain. Ond y dyddiau hyn mae noson dda yn un ble dwi'n cael mwy na wyth awr o gwsg heb cael fy nharfu.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Feminist, pessimist, busneslyd.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Unrhyw un o lyfrau Haruki Murakami.
Ffilm: Star Wars.

Mae llyfrau'r awdur o Japan, Haruki Murakami, wedi cael eu cyfieithu i dros 50 o ieithoedd
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Mam. Fe farwodd hi pan oeddwn i'n 12 felly fyswn i wrth fy modd yn cael G&T efo hi rwan.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi 'di dissectio corff marw! Cyn i mi astudio gwleidyddiaeth, fe wnes i ddechrau ar radd mewn ffysiotherapi, ac er mwyn dysgu ein anatomi roeddem ni'n cael corff go iawn i weithio arno!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Fe fuaswn i'n cael parti enfawr efo teulu a ffrindiau. Fe fyddai yna fwyd da, lot a o win a digon o chwerthin.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Super Furries, [Nid] Hon yw'r gân sy'n mynd i achub yr iaith. Mae'n dod ag atgofion melys yn ôl o fy arddegau.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Sushi, cyri gwyrdd Thai, llond bocs o doughnuts.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Lindsay Vonn, er mwyn gwybod sut deimlad yw bod y sgïwr gorau yn y byd.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Siân Harries