Tour de France: Geraint Thomas yn codi i'r pumed safle

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ddiweddglo dramatig i ras Geraint Thomas yng nghymal mynyddig cyntaf ras eleni

Mae Geraint Thomas wedi codi i'r pumed safle yn y Tour de France ar ôl gorffen cymal mynyddig cyntaf ras eleni yn gryf mewn diweddglo dramatig.

Daeth enillydd y llynedd yn bedwerydd ar ran Tîm Ineos yn y chweched cymal ddydd Iau - cymal a gafodd ei ennill gan Dylan Teuns.

Mae Thomas bellach 49 eiliad y tu ôl i arweinydd newydd y ras, Guilio Ciccone.

Dechreuodd Thomas y cymal yn y seithfed safle, 45 eiliad y tu ôl i Julian Alaphillippe sydd bellach wedi llithro i'r ail safle yn y tabl.

Wedi ymdrech arwrol fe lwyddodd y Cymro i groesi'r llinell derfyn ddwy eiliad o flaen Alaphillipe a'i gyd-Ffrancwr, Thibaut Pinot.

Dywedodd Thomas fod "angen bod yn amyneddgar" i ymdopi â'r llethr serth ar ddiwedd y cymal yn La Planche des Belles Filles.

Roedd Alaphillipe wedi codi gêr tua'r diwedd mewn ymgais i gadw gafael ar y crys melyn, ond dywedodd y Cymro bod ganddo'r "hyder i adael iddo fynd" a mynd ati i'w basio gyda 350 medr i fynd.