Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ger Gellilydan
- Cyhoeddwyd
Mae dynes leol wedi marw wedi gwrthdrawiad yn ne Gwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog am 21:50 nos Iau.
Roedd dau gerbyd yn y gwrthdrawiad - Renault Scenic glas a Mitsubishi ASX glas.
Bu farw'r ddynes, oedd yn teithio yn y Renault - yn y fan a'r lle ac mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i'w theulu.
Dyw'r heddlu heb gadarnhau faint o bobl eraill oedd yn rhan o'r digwyddiad, ond maen nhw'n dweud eu bod wedi cael triniaeth at fân anafiadau.
Mae galwadau wedi bod i ostwng y terfyn cyflymder ar y ffordd yn y gorffennol oherwydd nifer y gwrthdrawiadau yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ystyried cyflwyno mwy o fesurau diogelwch yn yr ardal.
"Aethon ni ati yn gynharach eleni i gynnal mesurau i wneud y ffyrdd yn yr ardal yn fwy diogel trwy osod arwyddion a marciau ffordd dros dro yn gofyn i yrwyr arafu.
"Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr ardal ac yn ystyried mesurau eraill yn ôl y gofyn, gan gynnwys bwrw ymlaen â chynlluniau i ostwng y terfyn cyflymder ar y darn hwn o'r ffordd i 40mya."
Apêl am dystion
Dywedodd y Sarjant Meurig Jones o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru bod teulu'r ddynes yn eu meddyliau.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un allai fod wedi gweld y cerbydau'n teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni," meddai.
Mae'r llu hefyd yn gofyn am luniau dash cam all fod yn berthnasol.
Roedd y ffordd ar gau am gyfnod er mwyn i'r heddlu gynnal ymchwiliadau cychwynnol i'r gwrthdrawiad.