Adroddiadau o ffrwydrad ar safle diwydiannol ym Margam
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am tua 14:40
Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i adroddiadau o ffrwydrad ar safle diwydiannol ym Mhort Talbot.
Fe wnaeth llygaid dystion honni eu bod nhw wedi clywed sŵn ffrwydrad cyn gweld mwg yn codi o'r safle.
Cafodd yr heddlu, y Gwasanaeth Tân a'r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i safle BOC Gas & Gear ym Margam am tua 14:40 brynhawn Gwener.
Cafodd un person ei drin am effeithiau sioc, ond dywedodd Heddlu'r De nad yw'r digwyddiad yn un difrifol.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad a bellach yn gwneud ymholiadau.