Caru neu gasáu'r Eisteddfod Genedlaethol?
- Cyhoeddwyd
Mi fydd miloedd o Gymry yn tyru i Lanrwst eleni i Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Ond beth yw eich barn chi am yr ŵyl? Ydych chi'n casáu bob munud ac yn methu aros i'r cyfan fod drosodd? Neu a ydych chi'n caru popeth amdani, ac yn edrych ymlaen at uchafbwynt y flwyddyn?
Mae Cymru Fyw wedi holi dau berson am eu barnau gwahanol:
Euron Griffith - "Deffrwch fi pan mae'r holl shibang drosodd..."
Roedd fy niweddar dad annwyl, Selwyn Griffith, yn Archdderwydd. A dyna falla' oedd gwraidd y broblem.
Oherwydd roedd o hefyd yn feirniad adrodd poblogaidd a brwdfrydig mewn eisteddfodau bach dros y wlad ac, yn anochel falla', pan oeddwn yn blentyn roedd yna bwysa' mawr arna'i ddilyn yn y traddodiad Samwraiaidd yma a bod yn lefarwr o fri a - rhyw ddydd falla' - i gipio y brif wobr yn y Genedlaethol i gymeradwyaeth anferthol, atseiniol a byddarol pafiliwn orlawn.
Ia reit.
Ffat chans.
O gapeli llwyd, iasoer a llwm o'r Felinheli i Borthmadog - tra roedd pob un o'n ffrindiau lwcus di-eisteddfodol yn gwylio Batman, Thunderbirds, Y Monkees a'r Man from UNCLE - mi oeddwn i yn rhynnu ac yn crynu wrth i mi gael fy ngwthio o flaen beiriniaid blin a didostur fel gwystl diymadferth, mewn crys mor dynn â pharsal a thei oedd yn debygol o fy nghrogi.
Erchyll. Erchyll. ERCHYLL. Roedd fy ngwddw mor sych â Timbyctw a fy nghalon yn stampio fel ceffyl.
O'n i'n dalentog? Na. Dim rili.
Wrth gwrs, oherwydd eu bod yn 'nabod fy nhad roedd y beirniaid yn desbryt i drio ffendio rhywbeth positif i'w ddweud ac felly, ar ôl crafu eu pennau, roeddynt i gyd yn cytuno fy mod yn dda iawn am gyflwyno teitlau cerddi ond wedyn, ar ôl cwpwl o linellau, ro'n i'n tueddu… falla' … i (sibrydwch y peth) golli diddordeb.
Perffaith gywir wrth gwrs. (Ac, i fod yn onest, mae yna ddigon o amser wedi mynd heibio rŵan ers i mi gyflwyno Torri'r Mochyn yn sbardunol ym mhulpud capel Y Felinheli i mi fedru cyfadda' i chi nad oedd gen i fawr o ddiddordeb yn y teitlau 'chwaith.)
Ocê, falla' mod i ddim yn deffro yng nghanol y nos ac yn sgrechian oherwydd fy atgofion eisteddfodol ond, serch hynny, roedd y profiadau cynnar yma yn ddigon i sicrhau mod i erioed, ers hynny, wedi mentro i'r Brifwyl.
Ond eto… ddim cweit yn wir.
Es i yna i Lanrwst yn 1989 pan gafodd fy nhad ei goroni ond, am unwaith, roedd o yn awyddus iawn i mi gadw draw.
A'r rheswm? Wel, roedd o'n gwybod yn iawn bod presenoldeb ei fab afradlon ar faes y Steddfod mor anarferol ag ymddangosiad Yr Arglwydd Lucan ar faes Wembley yn ystod ffeinal yr FA, felly fasa pawb oedd yn fy ngweld yn sylweddoli yn syth fod cyfrinach prif seremoni'r dydd yn deilchion yn y mwd.
Dim diddordeb
Hyd yn oed heddiw does gen i ddim diddordeb o gwbwl yn y panto blynyddol Eisteddfodol. Y cyrn gwlad. Y delyn. Y beirniadaethau hir-wyntog a sych. Y cyrn gwlad eto. Y goleuadau fel pryfaid gloyw yn ceisio ffeindio'r bardd buddugol.
Deffrwch fi pan mae'r holl shibang drosodd...
Ar ôl i David Letterman gyflwyno'r Oscars un flwyddyn, fe dd'wedodd falla fasa hi'n syniad i ganslo'r seremoni nesa' ac i fuddugwyr y flwyddyn ganlynol dderbyn eu gwobrwyon drwy'r post.
Roedd ganddo fo boint.
Mair Long - "Mae'r cystadlu o hyd wedi bod yn bwysig i fi."
Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel, mae'n braf cael sôn am achlysur sydd mor agos at fy nghalon.
Mwynhau llu o berfformiadau byw, cystadlu, cymdeithasu a dal lan gyda ffrindiau, mynychu Gig y Pafiliwn a dod i adnabod gwahanol ardaloedd o Gymru, dyma enwi ond ychydig o'r pethau sy'n apelio ata' i am yr Eisteddfod.
Ac wrth gwrs cael gwneud hyn i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pan ddaw'r Eisteddfod i'ch ardal chi, mae'n ffordd o dynnu pobl at ei gilydd wrth ymuno â phwyllgorau a chodi arian. Tyfais i fyny yn Llambed ac mae gennyf atgofion melys iawn o Eisteddfod 1984 a phawb wrthi fel lladd nadroedd er mwyn sicrhau y byddai'r ŵyl yn llwyddo.
Ffrindiau oes
Profiad hwyliog oedd canu'r lleisiau cefndir ar gyfer cân swyddogol y babell ieuenctid, Bedlam. Roedd fy mrawd yn un o'r macwyaid yn seremonïau'r Orsedd ac mae'r lluniau'n dod allan bob tro rydyn ni eisiau ei boeni!
Mae cael mynd i wersylla gyda ffrindiau yn brofiad arbennig hefyd, ac mae'n braf gweld cymaint o'n hieuenctid yn cael eu trochi mewn cerddoriaeth Gymraeg ym Maes B. Mae'r ffrindiau chi'n eu gwneud mewn Eisteddfod yn gallu bod yn ffrindiau oes.
Doedd Maes B ddim yn bodoli pan es i gyda ffrindiau i Eisteddfod Porthmadog 1987 ond roedd y profiadau a'r hwyl a gawson ni yn amrhisiadwy a byddwn yn cwrdd lan gyda'r ffrindiau o bob cwr o Gymru ym mhob Eisteddfod.
I mi, mae seremonïau'r Orsedd yn achlysuron arbennig iawn. Ar ôl graddio, penderfynais i a rhai ffrindiau i ymuno â'r Orsedd a chefais fy urddo gyda'r wisg las yn Eisteddfod Llanelwedd 1993. Yn yr un Eisteddfod cafodd Mam ei hurddo am ei gwaith gwirfoddol yn ardal Llambed.
'Edrych fel 'sili bilis'!
Rwy'n cofio gorymdeithio yn fy ngwisg ar y maes un flwyddyn a chlywed llais bach yn gweiddi o'r dorf, 'rydych chi i gyd yn edrych fel sili bilis.' Fy mab Steffan - oedd tua thair oed ar y pryd ac wrth gwrs heb syniad beth oedd yn digwydd o'i flaen!
Erbyn hyn, mae e wedi cael y profiad o ddawnsio a chlocsio yn y seremonïau. Rwy'n cofio hefyd, tywydd crasboeth Eisteddfod Meifod 2003, a rhoi bath iddo mewn bwced yn adlen y garafan, a'r dŵr yn gorlifo dros y lle.
Mae siopa ar faes yr Eisteddfod yn fwynhad hefyd. Rwy'n cofio prynu telyn fach mewn un Eisteddfod.
A daeth fy ffrind o hyd i'w darpar ŵr yn Steddfod Cwm Rhymni 1990!
Profiad bywyd
Mae'r cystadlu o hyd wedi bod yn bwysig i fi, ac mae'r profiadau hynny wedi bod yn rhan annatod o fy nghymeriad. Boed yn unigol neu mewn côr, ennill neu golli, mae'n brofiad bywyd ac wedi fy ngwneud yn gryfach fel person.
Erbyn hyn rwy' wrth fy modd yn cyfeilio, hyfforddi ac arwain a byddwn i ddim yn gwneud y pethau hynny heblaw am y profiadau cynnar a gefais mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol.
Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at Eisteddfod y flwyddyn nesaf pan fydd yn ôl ym mro fy mebyd.
Hefyd o ddiddordeb: