Ceiswyr lloches 'yn dal i weithio'n anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae ceiswyr lloches yn parhau i weithio'n "anghyfreithlon" yn ôl pobl sy'n eu cefnogi - a hynny mwy na blwyddyn ar ôl i ddyn o Sudan farw yn ystod cyrch gan swyddogion mewnfudo.
Fe ddisgynnodd Mustafa Dawood drwy do adeilad wrth iddo geisio ffoi o olchfa geir yng Nghasnewydd.
Mae pobl sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches yn y ddinas wedi beirniadu'r hyn mae'n nhw'n ei alw'n ddiffyg gwybodaeth gyhoeddus ynglŷn â'r amgylchiadau.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IOPC) wedi dweud eu bod yn agos at gwblhau adroddiad am y digwyddiad.
Hawl i weithio
Mae gweithwyr lloches The Sanctuary yng Nghasnewydd yn galw ar geiswyr lloches i gael yr hawl i weithio'n gyfreithlon.
Dywedodd rheolwr y prosiect Mark Seymor: "Mae rhai yn gweithio'n anghyfreithlon - os ydych yn byw ar £5 y dydd, mae hynny yn ddigon i'ch cadw'n fyw.
"Ond os oes angen côt newydd neu bâr o sgidiau newydd, mae rhaid disgwyl dros ddwy flynedd am y math yna o bethau.
"Fe allai ddeall pam fod rhai yn dewis i ennill arian y ffordd hyn, cael arian parod yn eu llaw," meddai.
Roedd gweithwyr yn y lloches yn cynorthwyo Mr Dawood pan oedd yng Nghasnewydd.
Mae rhai ceiswyr lloches yn gorfod disgwyl blynyddoedd cyn bod penderfyniad a ydyn nhw'n cael aros yn y DU a'i peidio.
Mae'r Swyddfa Gartref yn ceisio rhoi ateb yn yr achosion mwyaf syml o fewn chwe mis.
Roedd Mr Dawood, wnaeth ffoi o Sudan, wedi bod yn y DU am dair blynedd cyn iddo droi at weithio'n anghyfreithlon.
Clywodd cwest i'w farwolaeth ei fod wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben ar ôl disgyn drwy'r to.
Mwy na blwyddyn ers y farwolaeth does dim eglurhad swyddogol gan y Swyddfa Gartref sut gafodd y cyrch ei gynnal. Mae'r IOPC yn ymchwilio.
'Gwarth'
Dywedodd Clare Kenney, sy'n gwirfoddoli yn y lloches, bod hi'n "warth" fod cyn lleied o wybodaeth, ac mae hi'n pryderu gallai rhagor o bobl farw mewn cyrchoedd tebyg yn y dyfodol.
"Mae'n ofnadwy fod blwyddyn wedi mynd heibio a dydyn ni dal ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn iawn.
"Mae'n bwysig i ni gael gwybod er mwyn sicrhau nad yw'n digwydd eto."
Dywedodd yr IOPC y llynedd nad oedd "unrhyw arwydd fod unrhyw un oedd yn gweithio i'r Gwasanaeth Mewnfudo wedi camymddwyn o ran safonau eu gwaith.
Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi cadw'r bobl berthnasol yn ymwybodol yn ystod yr ymchwiliad gan gynnwys cyfreithiwr y teulu.
"Rydym hefyd wedi cwrdd â theulu Mr Dawood ac wedi dangos lluniau CCTV o beth ddigwyddodd yn yr olchfa geir.
"Er ein bod wedi cwblhau ein hymchwiliad, efallai na allwn gyhoeddi'r dyfarniad nes diwedd cwest.
"Ni rydym wedi cael unrhyw gysylltiad â'r lloches ynglŷn â'r achos, ond byddwn yn hapus i rannu ein dyfarniad gyda nhw pan fydd yr amser yn iawn," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref y gallai ceiswyr lloches weithio yn y DU pebaen nhw wedi bod yn aros dyfarniad, heb unrhyw fai personol, am 12 mis neu fwy.
"Mae'r rhai sydd â chaniatâd i weithio yn cael eu cyfyngu i restr o swyddi lle mae prinder gweithwyr ac sy'n cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Gartref.
"Rydym yn gwrando yn astud i'r dadleuol cymhleth dros ganiatáu i geiswyr lloches i weithio, ac mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi rhoi ymroddiad i adolygu'r polisi er mwyn sicrhau ei fod yn diogelu ein systemau mewnfudo a chynnig lloches."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018