Diweithdra Cymru'n gostwng i'r un lefel â'r DU gyfan

  • Cyhoeddwyd
Canolfan waith

Roedd yna ostyngiad mawr yn nifer y di-waith yng Nghymru rhwng mis Mawrth a Mai o'i gymharu â gweddill y DU.

O ganlyniad mae canran y bobl dros 16 oed yng Nghymru sydd heb waith wedi gostwng i'r un lefel â'r cyfartaledd ar draws y DU, sef 3.8%.

Roedd yna 11,000 yn llai o bobl heb waith yng Nghymru yn y cyfnod dan sylw o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, rhwng Rhagfyr 2018 a Chwefror 2019.

Ond mae cyfran y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru'n dal yn is na'r cyfartaledd ar draws y DU.