Gwrthdrawiad Gellilydan: Teyrnged teulu i ddynes 24 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes 24 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn ne Gwynedd wythnos ddiwethaf wedi talu teyrnged iddi.
Roedd Fflur Green, o Drawsfynydd, yn teithio ar yr A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 21:50 nos Iau.
Bu farw Ms Green yn y fan a'r lle.
Dywedodd datganiad y teulu: "Ni all geiriau ddisgrifio'r boen annioddefol rydym yn mynd trwyddo trwy golli ein merch, chwaer ac wyres."
"Fy merch fach hardd, annwyl, dawel, weithgar a thalentog. Wedi ei chymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy fuan.... Mae mam a dad yn dy garu."
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan dystion posib i'r gwrthdrawiad.
Dywedodd y Sarjant Raymond Williams, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Hoffwn ddiolch i'r tystion hynny sydd eisoes wedi cysylltu â ni, ond rydym yn ymwybodol o ddau gerbyd a basiodd safle'r gwrthdrawiad ac rwy'n awyddus i'r gyrwyr gysylltu â ni.
"Rydym yn parhau i gadw teulu a ffrindiau Fflur yn ein meddyliau yn ystod y cyfnod anodd yma."
Mae teulu Ms Green yn dal i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2019