Yr athrawon sy'n dysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg

  • Cyhoeddwyd
Pedwar o athrawon y cwrs trochi gyda Sian CothiFfynhonnell y llun, Sian Poole
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Jones, Sara Cheeseman, Paula O'Brien a Natalie Gibson, yma gyda'u tiwtor Lowri Wyn Davies a'r cyflwynydd Sian Cothi, wedi bod yn siarad ar Radio Cymru

Sut mae dysgu Cymraeg mewn ysgol Saesneg pan nad oes yr un o'r athrawon yn siarad yr iaith?

Un o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg ydy'r cwrs Cymraeg mewn Blwyddyn sy'n trochi athrawon ysgolion cyfrwng Saesneg yn yr iaith.

Mae 824 o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yng Nghymru o'i gymharu â 368 o rai cyfrwng Cymraeg (mae 32 yn rhai dwy ffrwd a 33 yn rhai Saesneg â defnydd sylweddol o'r Gymraeg), yn ôl ffigyrau 2017/2018 Llywodaeth Cymru, dolen allanol.

Mae'n rhaid i ysgolion Saesneg gyflwyno rhywfaint o Gymraeg i'w disgyblion. Ond os nad yw'r plant byth yn clywed yr iaith yn y gymuned a'r athrawon ddim yn ei siarad, pa mor anodd yw'r her honno?

Bu Cymru Fyw yn siarad gyda phedwar o'r athrawon sydd newydd orffen cwrs trochi 2018/19 ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae'n rhaid inni gael 90 munud yr wythnos o Gymraeg ond mae mor anodd i ffitio fe mewn i'r amserlen," meddai Nick Jones, sy'n dysgu yn Ysgol Rhiw Syr Dafydd yn y Coed-duon ger Caerffili.

"Dydy'r plant ddim rili'n clywed y Gymraeg, dim ond yn y gwersi Cymraeg yn yr ysgol," meddai.

"Ond byddwn ni'n trio rhoi mwy o gyfle iddyn nhw i glywed a defnyddio'r iaith.

Ffynhonnell y llun, Nick Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Heb gael y cyfle i ddefnyddio fe na chlywed yr iaith o gwmpas yr ardal mae yn anodd," meddai Nick Jones, yma gyda'i gariad Leah-Marie

"Y peth mwyaf anodd ydi pan rydyn ni'n cael athrawon sydd ddim yn gallu deall yr iaith. Cyn dod ar y cwrs mae rhai o'r athrawon sy'n neud y cwrs ddim yn deall dim mwy na beth maen nhw'n gorfod ei ddysgu.

"Felly mae bod ar y cwrs wedi datblygu eu sgiliau yn llwyr i'w helpu nhw i ddelifro gwersi Cymraeg."

Mae Nick yn dod o deulu di-Gymraeg o Ddinbych-y-pysgod ond mae ei dad-cu yn medru'r Gymraeg ac roedd Nick bob amser yn genfigennus o'i gefndryd oedd yn byw yng ngogledd y sir ac yn gallu siarad Cymraeg.

"Ro'n i eisiau siarad Cymraeg ers oni'n blentyn ac es i drwy'r ysgol yn hoffi gwersi Cymraeg ac astudiais i lefel A, yn ail iaith. Dwi yn mwynhau siarad Cymraeg ac mae gen i ddiddordeb mewn ieithoedd.

"Alla' i ddeall athrawon sydd ddim eisiau dysgu Cymraeg achos does dim hyder o gwbl gyda nhw - mae fel fi'n dysgu cerddoriaeth, sdim cliw 'da fi [am y pwnc] ond mae rhaid i bawb ddysgu Cymraeg i'r plant, felly dyna'r problem - mae mor anodd i rai ohonyn nhw.

"Ond mae'r cwrs yma wedi newid fy insight i sut i ddysgu Cymraeg yn llawer gwell a helpu athrawon eraill yn fy ysgol gymaint â phosib."

Yr unig siaradwr Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Sara Cheesman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Cheeseman bellach yn siarad Cymraeg gyda'i merch, Rosa

Mae Sara Cheeseman yn gorffen y tymor yn byrlymu o Gymraeg i'w basio ymlaen i'w disgyblion fis Medi.

Ond pan fydd yn mynd nôl i Ysgol Nantymoel ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi'r gwyliau hi fydd yr unig aelod o staff yr ysgol fydd yn gallu siarad Cymraeg.

Er i Sara astudio Cymraeg fel ail-iaith i lefel TGAU, roedd hi wedi ei cholli yn llwyr ar ôl gadael yr ysgol a doedd dim Cymraeg yn y teulu.

"Pan symudais i Loegr a pan oni'n dysgu'r plant yno o'n nhw wastad yn gofyn i fi 'Miss, wyt ti'n gallu siarad Cymraeg?' Ac ro'n i'n teimlo cywilydd i ddweud 'Na, dwi'n dod o Gymru ond dwi ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl'

"Felly ro'n i eisiau dysgu Cymraeg. Wedyn pan glywais i am y cwrs ro'n i mor gyffrous. Es i'n syth at fy mhennaeth a gofyn 'gaf fi fynd?!'

"Pan o'n i yn yr ysgol ro'n i eisiau dysgu Ffrangeg i Lefel A achos gallwn i ddewis Ffrangeg ond roedd Cymraeg yn forced... a doedd e ddim yn hwyl.

"Ond nawr efallai, dwi'n gwybod pa mor bwysig ydi'r iaith i Gymru, a'n nationality ni.

"Yn fy ysgol i nawr 'dyn ni'n dysgu'r plant 'rydych chi'n dod o Gymru, mae angen ichi ddysgu hanes y wlad a'r iaith'. Ein hiaith ni ydi hi ac mae'n bwysig i'w chadw hi ymlaen."

Yr unig beth mae Sara yn poeni amdano yw y bydd yn colli'r iaith eto gan nad oes llawer o gyfle iddi ymarfer yr iaith.

Un o'i chynlluniau i gadw'r cysylltiad gyda'r iaith ydy dod i gytundeb i gyfnewid athrawon gyda'r ysgol Gymraeg.

Newid iaith yr aelwyd

Ond fe fydd ganddi rywun arall i'w helpu maes o law hefyd gan fod newid mawr wedi digwydd ar yr aelwyd gartref yn y flwyddyn diwethaf hefyd.

Mae ei merch, Rosa, yn mynd i'r ysgol Gymraeg leol ac mae'r ddwy wedi dechrau siarad Cymraeg gyda'i gilydd yn barod.

"Cyn y cwrs, faswn i ddim yn siarad Cymraeg yn y tŷ o gwbl ond nawr dwi'n trio siarad mwy o Gymraeg na Saesneg,""meddai Sara.

Dim o'r rhieni'n siarad Cymraeg

Fel Sara, fe gollodd Natalie Gibson o Ben-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr ei Chymraeg bron yn llwyr ar ôl gadael yr ysgol, er iddi astudio'r iaith i Lefel A.

Ond mae dwyster y cwrs blwyddyn wedi gweithio meddai Natalie sydd yn athrawes yn Ysgol Holton yn y Barri.

"Elfen o drochi oedd ar y cwrs felly roedden ni'n siarad Cymraeg drwy'r dydd, bob dydd. Roedd y cwrs yn anodd ond roedd yn anhygoel - dwi wedi bod yn lwcus iawn," meddai.

Ac mae wedi cael effaith ar eraill yn yr ysgol yn barod meddai Natalie, sydd wedi bod yn mynd nôl am ddiwrnod yr wythnos ar hyd y flwyddyn: "Mae ysgrifenyddes yn Ysgol Holton aeth i ysgol Gymraeg ond dydi hi ddim yn teimlo'n hyderus. Ond nawr rydyn ni'n cael sgwrs bach gyda'n gilydd bob wythnos. So nawr mae hi'n siarad Cymraeg eto.

"Dwi'n gwneud llawer a llawer o gamgymeriadau ond dwi jyst eisiau siarad a siarad!"

Ffynhonnell y llun, Natalie Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Natalie Gibson: "Roedd y cwrs yn anodd ond roedd yn anhygoel - dwi wedi bod yn lwcus iawn"

Bwriad Natalie ydy rhannu yr hyn mae wedi ei ddysgu ar draws yr ysgol a helpu i hyfforddi athrawon eraill yr ysgol a rhoi hyder iddyn nhw ddysgu patrymau'r iaith

"Gyda cefnogaeth fy mhennaeth dwi'n mynd i ddysgu Cymraeg ar draws yr ysgol o Meithrin i flwyddyn 6 felly dwi'n gallu bod yn gyfrifol am y Gymraeg a dwi'n gallu gweld y gwelliant drwy'r ysgol.

Yn ogystal â gwersi a chyflwyno'r Gymraeg mewn ffordd mwy naturiol yn yr ysgol, yn y gwasanaethau ac wrth i staff a disgyblion gyfarch ei gilydd mae hi hefyd am ddechrau clwb Cymraeg ar ôl ysgol i ddisgyblion ac aelod o'u teulu.

"Bydd yn rhaid i blant ddod o hyd i rywun o'u teulu - fel nain neu taid, mamgu neu modryb - a mae'n rhaid iddyn nhw ddod gyda'r plant i'r clwb Cymraeg lle rydyn ni'n mynd i ddysgu patrymau syml fel 'bore da', 'sut wyt ti'."

Cyflwyno brawddeg yr wythnos

Mae Paula O'Brien yn llawn cynnwrf am ddechrau ar ei chynlluniau hi ar gyfer Ysgol Gynradd Garth yn Maesteg fis Medi.

Er fod ei phennaeth ac athrawon yr ysgol yn gefnogol, mae hi'n gwybod ei bod yn dasg anodd.

"Mae pob un yn yr ardal yn siarad Saesneg," meddai Paula gafodd ei magu yn Maesteg hefyd.

"Mae'n rhaid i ysgolion Saesneg siarad a datblygu Cymraeg ym mhob dosbarth o Meithrin i flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd.

"Maen anodd achos dydi llawer o'r athrawon ddim yn gallu siarad Cymraeg felly mae'r cwrs sabothol yma'n berffaith i ddatblygu mwy a mwy o Gymraeg, yn y gwersi ac ar draws y cwricwlwm hefyd."

Ffynhonnell y llun, Paula O'Brien
Disgrifiad o’r llun,

Paula O'Brien: "Roedd diddordeb gen i mewn dysgu Cymraeg ers pan oeddwn i'n ferch fach... roeddwn i'n meddwl bod e'n bwysig i fi"

Yn barod, mae hi wedi casglu plant o bob blwyddyn i greu 'criw Cymraeg' fydd yn helpu i gyflwyno'r iaith yn anffurfiol drwy'r ysgol.

"Yn mis Medi rydyn ni'n mynd i gyflwyno brawddeg yr wythnos i'r plant a mae pob un yn yr ysgol yn mynd i'w defnyddio. Yn lle dweud 'Can I go to the toilet, please?' maen nhw'n mynd i ddweud 'Ga i fynd i'r tŷ bach?'."

Bydd hi hefyd yn dysgu gemau iard Cymraeg i'r plant, yn eu hannog i ofyn am eu bwyd yn Gymraeg amser cinio.

Mae Paula wedi creu cysylltiad gyda'i hysgol Gymraeg leol ac yn gobeithio cydweithio gyda hi mewn gweithgareddau fel chwaraeon neu ganu.

Fel y tri arall dysgodd Paula Gymraeg ail-iaith yn yr ysgol ond heb unrhyw Gymraeg yn ei theulu na chyswllt gyda'r iaith yn ei chymuned fe gollodd hi'r Gymraeg yn y 30 mlynedd ers gadael yr ysgol.

"Ond roedd diddordeb gen i mewn dysgu Cymraeg ers pan oeddwn i'n ferch fach," meddai. "Roeddwn i'n meddwl bod e'n bwysig i fi - dwi eisiau cadw'r iaith a dwi'n meddwl mae'n bwysig achos mae'n hen hen iaith a dylen ni siarad hi."

Ond mae'n bosib y bydd y cysylltiad mae wedi ei wneud gyda'r ysgol Gymraeg leol yn codi cwr y llen ar yr iaith yn ei hardal.

"Ers fy mod i wedi bod yn yr ysgol Gymraeg, nawr os dwi'n gweld athrawon [yr ysgol Gymraeg] neu eu plant yn y gymuned dwi'n dweud 'bore da' neu 'prynhawn da'; dwi'n defnyddio Cymraeg yn lle'r Saesneg.

"Felly yn y dyfodol, yn y siopau neu ar y bws dwi'n mynd i ddweud bore da yn gyntaf - felly fydda i'n gallu ffeindio mas pwy sy'n gallu siarad Cymraeg yn yr ardal."

Mae'r cwrs yn cael ei ddysgu hefyd ym Mangor, Caerfyrddon ac Abertawe ac mae yn llawn yn barod ar gyfer 2019/2020.

Hefyd o ddiddordeb: