Llywodraeth yn llusgo traed ar newidiadau addysg Gymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Addysg Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed wrth gyflwyno newidiadau i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.

Bum mlynedd yn ôl, cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar ddysgu Cymraeg ail-iaith mewn ysgolion, oedd yn galw am newid cyfeiriad "ar frys", er mwyn atal dirywiad y Gymraeg fel ail iaith.

Cafodd yr adroddiad hwnnw ei groesawu gan y llywodraeth, ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynnu nad yw newidiadau'n cael eu cyflwyno'n ddigon cyflym.

Dywedodd Llywodraeth Cymru "fod y gwaith yn mynd rhagddo i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg".

'Unfed awr ar ddeg'

Roedd yr adroddiad yn 2013, a gafodd ei baratoi gan bwyllgor dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, yn cyfeirio at sefyllfa oedd ar ei "hunfed awr ar ddeg", gan ddweud fod dysgu Cymraeg ail iaith "yn brofiad diflas i nifer fawr o ddisgyblion" ac nad oedden nhw'n gweld bod y pwnc yn berthnasol nac yn werthfawr iddyn nhw.

Dywedodd y llywodraeth ar y pryd y byddai'n ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun newidiadau ehangach i'r Cwricwlwm Cenedlaethol, cwricwlwm fydd yn dechrau cael ei gyflwyno yn 2022.

Yna, yn 2016, cyhoeddodd Alun Davies, y gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar y pryd, fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddiddymu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc ymhen pum mlynedd.

Cafodd y datganiad hwnnw ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith ar y pryd.

Ond ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg y Gymdeithas, ei bod hi'n "annerbyniol" fod mwyafrif plant Cymru'n dal i adael yr ysgol heb fedru'r iaith.

"Mae 80% o'n plant ni'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg, a bai y system yw e," meddai.

"Dyna pam mae cymaint o oedolion yn mynychu cyrsiau dysgu Cymraeg - maen nhw'n teimlo'r methiant eu hunain ac yn dymuno dysgu'r Gymraeg o'r newydd."

Ychwanegodd fod Cymdeithas yr Iaith wedi mynd ati i gyhoeddi ei chymhwyster ei hun, "i ddangos pa mor hawdd yw e".

Awgrymodd hefyd y gallai'r mudiad weithredu'n uniongyrchol os na fyddai'n gweld cynnydd: "Os nad y'n nhw'n cymryd y mater yma o ddifri', dyma'r rhwystredigaeth sy'n wynebu ymgyrchwyr iaith.

"Mae pum mlynedd arall o genedlaethau o blant wedi gadael yr ysgolion yn methu â siarad Cymraeg. Mae hwnna'n fater difrifol iawn, iawn ac yn dangos methiant anhygoel yn y system addysg."

'Gwaith yn mynd rhagddo'

Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y "gwaith yn mynd rhagddo i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg".

"Fel pob pwnc yn y cwricwlwm mae'n cael ei ddatblygu gan athrawon gyda mewnbwn gan arbenigwyr ieithyddol.

"Fydd y term Cymraeg fel Ail Iaith ddim yn ymddangos yn y cwricwlwm newydd.

"Dyn ni yn gweithio'n agos gyda Chymwysterau Cymru i ddatblygu cymwysterau newydd a fydd yn adlewyrchu'r dulliau sy'n cael eu hyrwyddo gan y cwricwlwm newydd, gan gydnabod bod angen amser ar ysgolion a dysgwyr i addasu i ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu cyn i'r cymwysterau presennol ddod i ben."