'Balchder' i fenyw o Seland Newydd am ddysgu'r iaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Grace Jones bod "Cymru yn gartref i fi rŵan" wedi iddi ddysgu'r iaith

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig eleni.

Bu BBC Cymru yn eu holi ac yn gofyn iddynt pam eu bod wedi penderfynu dysgu'r iaith.

Mae Grace Emily Jones yn byw yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Ond o Seland Newydd y daw hi'n wreiddiol.

"Pan nes i symud drosodd i'r gogledd nes i ddeall sut mae pobl yn iwsio Cymraeg yma, sut maen nhw yn defnyddio fo fel iaith gyntaf.

"So o'n i yn meddwl 'rhaid i fi ddysgu'r iaith ma' achos bob lle o'n i'n mynd roedd pawb yn siarad Cymraeg gyntaf."

Fe gychwynnodd trwy ddefnyddio brawddegau bach. "Ti isio paned? Lle ti'n mynd? Dwi'n mynd i'r dre". Mae'n falch ei bod wedi parhau i ddysgu.

Grace efo Max y ci

Roedd hi ofn siarad yr iaith i ddechrau er ei bod hi'n deall llawer, ond gydag amser mae wedi dod yn fwy cyfforddus.

"Nes i ddechrau dweud wrth bobl i beidio siarad Saesneg efo fi ac wedyn oedd o yn kind of gorfodi fi i ddefnyddio Cymraeg fi," meddai.

Cefnogaeth 'anhygoel'

Bydd Grace, ynghyd â rhai dysgwyr eraill yn cael ei hanrhydeddu gan yr Orsedd yn y brifwyl yn Llanrwst eleni. Roedd y newyddion yn annisgwyl.

"Ar ôl gweld pwy arall sy'n cael ei hurddo dwi'n meddwl, pam fi? Ond dwi'n gobeithio bo' fi yn gwneud pawb yn falch."

Mae'r gefnogaeth yn yr ardal wedi bod yn "anhygoel", meddai.

Un sy'n falch iawn ohoni yw ei gŵr Llion. Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn Seland Newydd pan oedd o allan yn cneifio yno.

"Mae wedi gwneud yn andros o dda chwarae teg i ddod i gymuned hollol wahanol a jest cymysgu efo pawb ac isio dod i 'nabod a dallt sut 'da ni yn byw yng Nghymru," meddai Llion.

Gobaith Grace yw y bydd rhai sydd yn dod i fyw i Gymru yn cael eu hysbrydoli i ddysgu'r iaith ar ôl ei gweld hi'n llwyddo.

Grey line

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fercher 7 Awst.