Albanwr yn ennill Ras y Wyddfa ond y record dal i sefyll
- Cyhoeddwyd
Andy Douglas o'r Alban oedd enillydd Ras y Wyddfa eleni.
Gydag amser o 1 awr a 4 munud roedd o fewn ychydig funudau o dorri'r record.
34 mlynedd yn ôl cafodd y record o 1 awr a 2 funud ei osod gan yr Albanwr Kenny Stuart.
Eleni roedd mawr ddisgwyl i'r record gael ei thorri gan wrth i'r ras ddod yn rhan o Gwpan y Byd gan Gymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd am y tro cyntaf.
Martin Dematteis o'r Eidal ddaeth yn ail a'i frawd Bernard Demattei's yn drydydd.
Enillydd ras y merched oedd Sarah McCormick o'r Iwerddon gydag amser o 1 awr ac 14 munud. Mae hi wedi ennill ddwywaith o'r blaen.
Yr Eidales Elisa Sortini oedd yn ail a Hatti Archer o Loegr yn drydydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2019