Teulu merch yn galw am wersi mêr esgyrn mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Emily ClarkFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emily Clark yn 18 oed yn 2016

Mae teulu merch 18 oed a fu farw o ganser y gwaed yn galw am wersi ar fêr yr esgyrn i gael eu cyflwyno i'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Roedd Emily Clark o Gwmbrân yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am gofrestru bôn gelloedd cyn iddi gael diagnosis o Non-Hodgkin Lymphoma a marw o'r cyflwr yn 2016.

Mae ei theulu eisiau i athrawon roi gwersi ar y pwnc i geisio cynyddu'r nifer o roddwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod drafft y cwricwlwm yn galluogi i blant "ddysgu'n eang am wahanol faterion iechyd."

Gemau trawsblaniadau Prydain

Bydd miloedd o bobl sydd wedi derbyn trawsblaniadau yn mynychu Gemau Trawsblaniad Prydain, sy'n cael ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf ers degawdau, yn ystod yr wythnos.

Dywedodd mam Emily Clark, Donna, y gallai bywydau gael eu hachub yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Donna Clark a'i mherch Holly yn cymryd rhan yn y gemau trawsblaniad sy'n agor yng Nghasnewydd ddydd Iau.

"Byddai'r cwricwlwm cenedlaethol yn ffordd dda o dargedu plant 16 oed wrth iddyn nhw gyrraedd yr oedran y mae modd ymuno â'r gofrestr - addysg yw'r peth allweddol," meddai.

"Rydych yn clywed yn aml am loteri côd-post o ran cael mynediad at gyffuriau. Mae hyn yn broblem ehangach,

"Rydych yn gorfod darganfod person sydd heb gael canser, ac os nad ydyn nhw ar y gofrestr, does gennych chi ddim gobaith," meddai.

Codi ymwybyddiaeth

Yn ôl Ymddiriedolaeth Anthony Nolan, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am drawsblaniadau bôn gelloedd, mae cyfradd goroesi cleifion yn uwch os yw'r rhoddwyr o dan 30 oed.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu ar ganiatâd tybiedig o ran rhoi organau - hynny yw os nad yw person wedi nodi nad yw am roi organau, tybir felly ei fod yn fodlon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn darparu ysgolion gyda phecyn gwybodaeth ar-lein ar roi organau yn ogystal â siaradwyr i ymweld ag ysgolion i drafod y mater.

"Bydd athrawon hefyd yn gallu ffocysu ar ran helaeth o faterion sy'n ymwneud ag iechyd a lles yn y cwriciwlwm."

Bydd Donna Dunn a'i merch Holly Clark - chwaer Emily - yn cymryd rhan yn y gemau trawsblaniad sy'n agor yng Nghasnewydd ddydd Iau.

Bydd y gemau yn denu miloedd o gystadleuwyr a chefnogwyr o amgylch y DU sydd wedi derbyn rhodd o ryw fath.

Disgrifiad,

Mae Lewis Evans mor ddiolchgar i'w fam wedi iddi roi aren iddo

Mae Lewis Evans o Dregaron yn cymryd rhan yn y gemau trawsblaniad eleni.

Mae eisoes wedi ennill aur yn y 100m a'r 200m yn y gemau'r llynedd.

Mae Lewis wedi cael trawsblaniad aren diolch i'w fam.

"Roeddwn yn meddwl, rhowch feddyginiaethau i mi a fyddai'n iawn, fe ddywedon nhw na, mae'n ddifrifol mae'n rhaid i ni ffonio rhywun."

Roedd chwaer Lewis a'i fam yn gymwys, ond doedd Gay Evans ddim eisiau gweld ei dau blentyn yn mynd dtwy lawdriniaeth, felly fe roddodd hi ei haren i'w mab.

"Mae'n ail gyfle mewn bywyd diolch i fy mam - roedd e'n gyfnod emosiynol iawn," meddai Lewis.