Cynnydd yn y nifer sy'n cydsynio i roi organau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
rhoi organau

Mae'r niferoedd sy'n cydsynio i roi eu horganau yng Nghymru yn uwch na gwledydd arall y DU.

Mae data newydd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod 80.5% o bobl Cymru yn cydsynio i roi organau yn dilyn marwolaethau coesyn yr ymennydd ac yn dilyn marwolaethau cylchredol, sy'n fwy na'r gyfradd yn Lloegr (66.2%), yr Alban (63.6%) a Gogledd Iwerddon (66.7%).

Ers 1 Rhagfyr 2015, Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o "ganiatâd tybiedig", sy'n golygu bod rhaid i unigolion optio allan o roi eu horganau wedi iddyn nhw farw.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, mae'r data'n dangos bod y ddeddfwriaeth wedi "cael yr effaith roedden ni wedi gobeithio y byddai'n ei chael".

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r ffigyrau newydd hyn wir yn rhoi achos inni fod yn obeithiol am y dyfodol ac mae'n dangos bod ein deddfwriaeth sy'n torri tir newydd yn cael yr effaith roedden ni wedi gobeithio y byddai'n ei chael."

Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton: "Mae'r rhain yn ffigyrau calonogol iawn ond rhaid inni barhau â'r gwaith da er mwyn gweld cynnydd pellach yn nifer y rhoddwyr organau yma yng Nghymru."

Ychwanegodd Dr Atherton ei fod yn awyddus i weld mwy yn trafod rhoi organau.

"Os ydych chi'n gwybod eich bod chi eisiau rhoi eich organau, dywedwch wrth eich anwyliaid.

"Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaethau am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau pan fyddwch yn marw.

"Gallai cyfnod sy'n ddigon anodd i deuluoedd fod yn anoddach eto os na fyddwch chi wedi trafod rhoi organau."