Sioe Amaethyddol: Rhybuddion am 'aflonyddwch sifil'

  • Cyhoeddwyd
sioe amaethyddol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Sioe Amaethyddol eleni yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed

Gallai "aflonyddwch sifil" fod yn bosib yng nghefn gwlad Cymru os yw prif weinidog nesaf Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeiadd heb gytundeb, yn ôl undebau amaethyddol.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhagweld protestiadau, tra bod NFU Cymru yn dweud na fyddai'n diystyru ymgyrchu i atal Brexit yn llwyr.

Rhybuddiodd Hybu Cig Cymru y byddai'r gadael heb fargen yn cael yr effaith waetha posib ar ffermwyr.

Roedden nhw'n yn siarad ar ddechrau canfed Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Powys.

Mae disgwyl y bydd Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth Prydain, Michael Gove, yn ymweld â'r sioe ddiwrnod cyn cyhoeddiad enw arweinydd newydd y Blaid Geidwadol.

Mae'r ddau ymgeisydd - Boris Johnson a Jeremy Hunt - wedi datgan y bydden nhw'n barod i adael yr UE heb gytundeb petai angen.

'Brexit i ddigwydd ar yr amser gwaethaf posib'

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, wrth BBC Cymru ei fod yn credu bod posibilrwydd y byddai yna "aflonyddwch sifil" os yw hynny'n digwydd.

"Os yw'r gymuned ffermio mewn sefyllfa a'u cefnau'n erbyn y wal, yr unig ffordd allan yw ymladd."

Disgrifiad o’r llun,

Brexit oedd yn cael sylw llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, ar ddechrau'r Sioe

Yn ogystal mi ddywedodd Llywydd NFU Cymru, John Davies, fod yn rhaid i'r diwydiant osgoi Brexit heb gytundeb ac na fyddai'n diystyru dim er mwyn cyflawni hynny.

Mi feirniadodd wleidyddion oedd wedi bod yn "barod i ddiystyru ein pryderon sylfaenol gan awgrymu ein bod yn codi bwganod".

"Dy nhw ddim yn cynnig dim o sylwedd, dim ond sicrwydd sicr y bydd popeth yn iawn neu'n galw am fwy o bositifrwydd Brexit."

Roedd eraill yn dweud mai'r amseriad gwaetha posib i ffermwyr fyddai gadael heb gytundeb ddiwedd mis Hydref.

Mae allforion cig oen Cymreig ar eu hanterth ddiwedd yr hydref.

Adroddiad damniol

Mae adroddiad newydd, gafodd ei gomisiynu gan gyrff tollau AHDB, Quality Meat Scotland a Chig Cymru yn edrych ar effeithiau tariffau a rhwystrau eraill i fasnachu cig eidion a chig oen ar ôl Brexit.

Mae'n awgrymu y gallai allforion i Ewrop, sef y farchnad fwyaf o bell ffordd i gynhyrchwyr o Gymru, ostwng tua 92%.

Byddai hyn yn ôl yr adroddiad yn arwain at ostyngiad o 24% ym mhris cig oen ar adeg o'r flwyddyn pan fydd miloedd o ŵyn ar y farchnad bob dydd.

Mae disgwyl i gadeirydd Hybu Cig Cymru, Kevin Roberts ddweud mewn araith ar faes y sioe bod yr ymchwil yn dangos y byddai'n rhaid i arweinwyr ym myd ffermio wneud popeth o fewn eu gallu "yn yr wythnosau byr nesa' i atal yr amcangyfrif peryglus yma rhag dod yn realiti."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, fod y posibilrwydd bod Prydain yn gadael yr UE heb fargen yn "gynyddol debygol" gan achosi "llawer o aflonyddwch".

"Rydym wedi dweud ar hyd yr amser bod yn rhaid cael bargen, roeddem yn meddwl ein bod yn gadael ar ddiwedd mis Mawrth, pobl yn paratoi ar gyfer hynny a nawr rydym yn gofyn i gwmnïau baratoi eto ar gyfer diwedd mis Hydref.

"Mae cymaint o ansicrwydd ac yn amlwg mae pobl yn bryderus iawn."

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Mr Gove fod y Sioe Frenhinol yn "arddangosfa wych ar gyfer ansawdd da byw, bwyd a diod a chynnyrch fferm yng Nghymru.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld popeth sydd ar gael."