Achos llofruddiaeth Caerdydd: Canfod dwy gyllell
- Cyhoeddwyd
Fe all cyllyll a gafodd eu canfod mewn man coediog yng Nghaerdydd fod yn gysylltiedig â marwolaeth dyn 18 oed yno fis diwethaf, yn ôl Heddlu'r De.
Bu farw Fahad Mohamed Nur yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu ger gorsaf drenau Cathays yn oriau mân 2 Mehefin.
Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd dwy gyllell eu canfod gan ddau fachgen ifanc ymysg coed rhwng Heol yr Amgueddfa a Phlas-y-parc ar 20 Mehefin.
Dywedodd yr heddlu fod mam y bechgyn wedi rhoi gwybod iddyn nhw, ac er i'r llu ddod o hyd i'r cyllyll, wnaethon nhw ddim cymryd manylion y fam.
Noson cyngerdd Pink
Mae ditectifs yn credu y gall y cyllyll fod yr union rai gafodd eu defnyddio yn y digwyddiad, ac mae profion fforensig yn cael eu gwneud i gadarnhau hynny.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Mark O'Shea: "Cafodd yr ardal o amgylch Plas-y-parc ei chwilio'n helaeth yn dilyn marwolaeth drasig Fahad ar 2 Mehefin.
"Tua 18:30 ar noson gyngerdd Pink yn Stadiwm Principality - dydd Iau, 20 Mehefin - adroddodd fenyw bod ei meibion ifanc wedi dod o hyd i ddwy gyllell wedi'u cuddio ymysg coed.
"Rydym yn ddiolchgar iawn am ei gwyliadwriaeth yn adrodd y canfyddiad ond yn anffodus ni chafodd ei manylion eu cymryd ar y pryd, ac rydym yn gofyn iddi gysylltu â ni."
Mae modd ffonio Heddlu'r De ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019