Marwolaeth Cathays: 'Dyn wedi ei drywanu yn ei galon'

  • Cyhoeddwyd
Fahad Mohamed NurFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Fahad Mohamed Nur yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd

Clywodd cwest yng Nghaerdydd fod dyn 18 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei galon.

Bu farw Fahad Mohamed Nur yn yr ysbyty ar ôl i'r heddlu gael eu galw i lon ger gorsaf drenau Cathays yn oriau man 2 Mehefin.

Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu De Cymru wrth y cwest fod archwiliad post mortem yn dangos i Mr Nur farw o ganlyniad i anaf i'w galon.

Dywedodd y Crwner Rachel Knight nad oedd hi'n gallu rhyddhau'r corff ar gyfer trefniadau angladdol, ac y byddai'r cwest yn cael ei ohirio tan fod yr achos troseddol wedi ei gwblhau.

'Nifer o anafiadau'

Clywodd y cwest i'r gwasanaethau brys gael eu galw tua 00:20.

"Fe wnaeth nifer o dystion geisio helpu Fahad a galw am gymorth ambiwlans," meddai'r Ditectif Arolygydd Wales.

"Cafodd ei gludo i'r Ysbyty Athrofaol ond er gwaetha'r ymdrechion i'w achub, bu farw.

"Yn ôl canlyniadau post mortem roedd ganddo nifer o anafiadau o ganlyniad i drywanu."

Fe wnaeth Shafiqur Shaddad, 24 o Dre-biwt, ac Abdulghalil Aldobhani, 22 o Cathays, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Mae dyn arall, Mustafa Aldobhani, 21, hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl i'r achos yn erbyn y tri ddechrau ar 18 Tachwedd.

Mae'r heddlu wedi cyhuddo pedwerydd person, Aseel Arar, 34 o Birmingham, o gynorthwyo troseddwr.

Apêl am wybodaeth

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i chwilio am y gyllell a gafodd ei defnyddio i drywanu Mr Nur, a dillad y rheiny sy'n gyfrifol.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw sy'n gwybod ble allai'r rheiny fod, yn ogystal ag unrhyw un a welodd y llofruddwyr cyn neu ar ôl y digwyddiad.