Galw am ddileu cynllun dad-ddofi O'r Mynydd I'r Môr
- Cyhoeddwyd
Mae Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw am roi'r gorau i gynllun dad-ddofi enfawr ar gyfer 10,000 hectar o dir yn y canolbarth.
Bwriad cynllun O'r Mynydd I'r Môr yw creu un coridor hir ar draws y canolbarth i gefnogi rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt, o fynyddoedd Pumlumon i Fae Ceredigion, heb ymyrraeth ddynol.
Elusen o'r enw Rewilding Britain sydd yn gyfrifol am y cynlluniau.
Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod arbennig ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth i fynegi eu pryderon.
Ar ôl cyfarfod fe ddywedodd Nick Fenwick wrth BBC Radio Cymru: "Mae angen iddyn nhw adael a gwneud i ffwrdd â'r cynllun, oherwydd yn y bôn mae'n mynd yn erbyn cefn gwlad a'r cymunedau ac amaeth.
"Natur y cynllun yw ail-wylltio ar lefel lle nad yw hi'n bosib i bobl fyw yn eu cymunedau."
Fe ategwyd yr alwad honno gan Dafydd Morris Jones, ffermwr defaid o Ysbyty Cynfyn ger Ponterwyd.
"Wy'n credu mai'r unig ffordd ymlaen - er mwyn achub y berthynas rhwng cadwraethwyr a ffermwyr - yw i'r cynllun ddod i ben a gadael i'r mudiadau cynhenid a'r ffermwyr ddod nôl at ei gilydd i gynllunio ar gyfer dyfodol disglair."
Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy'n cynrychioli ardal Glantwymyn ar Gyngor Powys: "Beth sy'n bod ydy diffyg gwybodaeth sylfaenol a diffyg parch at y gymuned leol.
"Maen nhw'n gwrthod cynnal cyfarfod cyhoeddus. Mae pobl yn amheus iawn o beth yw'r gwir agenda."
'Dyddiau cynnar'
Dywedodd cyfarwyddwr prosiect O'r Mynydd i'r Môr, Melanie Newton ei bod yn parhau'n "ddyddiau cynnar iawn" i'r cynllun.
"Rydyn ni eisoes wedi siarad â nifer o bobl, gan gynnwys cynrychiolwyr o UAC, dros y misoedd diwethaf.
"Ni allaf dan-bwysleisio bod hyn am greu cyfleoedd i bobl aros ar y tir a gadael i gymunedau a diwylliant Cymreig i ffynnu, gyda natur yn ffynnu hefyd.
Ychwanegodd bod cymryd rhan yn y prosiect yn "gwbl wirfoddol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018