Ffermwyr yn 'bryderus ac amheus' am gynllun natur

  • Cyhoeddwyd
Bele'r coedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd belaod coed eu hailgyflwyno i'r ardal yn 2015

Mae cefnogwyr cynllun dad-ddofi ('rewilding') fwyaf Prydain wedi mynnu nad rhwystro ffermio yw eu bwriad.

Ar ôl sicrhau £3.4m o gronfa elusennol, mae prosiect 'O'r Mynydd i'r Môr' ar fin penodi cyfarwyddwr i arwain y gwaith.

Y syniad yw creu un coridor hir ar draws y canolbarth i gefnogi rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt.

Ond mae ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd y llwybr yn "bryderus ac yn amheus", yn ôl un cynghorydd lleol.

"Mae'n gynllun uchelgeisiol sy'n gobeithio gweithio ar draws 10,000 hectar," eglurodd Rory Francis, rheolwr ymgyrchoedd Coed Cadw.

"Nid stopio ffermwyr rhag ffermio yw'r bwriad, ond gweithio gyda nhw i'w helpu i wneud pethau positif fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt.

"Pethau fel adfer corsydd mawn, coedlannau hynafol a phlannu coed newydd ar y tirlun."

Ffynhonnell y llun, Ben Porter/Summit to Sea

Mae'r elusen yn arwain y gwaith o sefydlu'r prosiect ar y cyd â chorff Rewilding Britain.

Nid prynu tir fyddan nhw, ond yn hytrach, defnyddio'r arian nawdd - o gronfa ryngwladol Arcadia sy'n cefnogi gwaith amgylcheddol - i dalu ffermwyr a thirfeddianwyr i ymgymryd â phrosiectau i hybu byd natur.

Y gobaith yw creu ardal fydd yn hafan i rywogaethau prin, gan gynnwys bele'r coed - gafodd ei ailgyflwyno yma yn 2015.

"Fe ddatgelodd adroddiad diweddar Cyflwr Byd Natur bod Cymru yn un o'r gwledydd sydd wedi'i effeithio waethaf gan ddirywiad ym myd natur," meddai Mr Francis.

"Felly os ydyn ni am weld ein plant a phlant ein plant yn mwynhau a phrofi bywyd gwyllt mae angen i ni ddarparu cynefinoedd ar eu cyfer.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y prosiect yma'n rhan o'r ateb."

Ond mae'r ddau undeb amaeth wedi codi pryderon am fwriad y cynllun, tra bod cynghorydd Dyffryn Dyfi, Elwyn Vaughan wedi rhybuddio bod angen gwneud mwy i ymgynghori â'r gymuned leol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Elwyn Vaughan yn bryderus am "ddelweddau negyddol"

"Mae gennym ni nifer o bryderon yn lleol a ry'n ni'n gwthio'r trefnwyr i ailenwi'r prosiect - gan gael gwared ar y gair 'rewilding'.

"Mae'n rhaid i'r swyddog sydd ar fin gael ei benodi fod yn rhugl yn y Gymraeg i gael gwared ar unrhyw ddelweddau negyddol ac mae'n rhaid cydweithio â'r undebau amaethyddol, y mentrau iaith a'r cynghorau bro a sicrhau fod 'na wir berchnogaeth, cynhenid arno - a'i fod yn rhywbeth Cymreig nid rhywbeth estron."

'Siom ofnadwy'

Roedd 'na ymateb cymysg gan amaethwyr ym mart Dolgellau hefyd.

"Mae pawb yn daer yn erbyn y prosiect," meddai Tegid Jones, sy'n ffermio ger Machynlleth, "fues i'n ddigon ffôl i fynd i bwyllgor (am y cynllun) a ges i'n siomi'n ofnadwy.

"Doedd dim syniad ganddyn nhw am yr ardal na beth oedden nhw isio 'neud."

"Ar y funud does gennyn ni ddim syniad pa fath o gynlluniau maen nhw'n sôn amdanyn nhw, ac a fyddan nhw'n apelio i ffermwyr ai peidio," ychwanegodd Dafydd Jones o Bonterwyd.

"Gallwch chi alw'r peth yn 'rewilding' - ond gwell gen i ddweud gwella'r amgylchedd wrth ffermio. Mae 'rewilding' yn golygu lot o bethau a fyddai'r un ffermwr yn cytuno â nhw'i gyd."

Dywedodd Mr Francis fod y gwaith ymgynghori gyda'r gymuned leol wedi bod yn gyfyngedig, oherwydd mai ond yn ddiweddar yr oedd yr arian nawdd wedi'i sicrhau.

"Rŵan mi fydd 'na dîm, fe fydd 'na gyfarwyddwr a'u prif waith nhw fydd mynd allan i siarad a fyddwn ni yn annog pobl i weithio hefo ni i adeiladu'r prosiect o'r gwaelod i fyny."