Beth fydd effaith y Prif Weinidog newydd ar Gymru?
- Cyhoeddwyd
Gyda darogan cyfnod tymhestlog yn wleidyddol i'r DU dan arweinyddiaeth Boris Johnson, mae dyfalu wedi dechrau am beth allai ei gyfnod wrth y llyw olygu i Gymru.
Mae disgwyl i Mr Johnson annerch y wlad fel Prif Weinidog yn Downing Street ddydd Mercher.
Cafodd ei ethol fel arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ddydd Mawrth, gan ennill y ras i olynu Theresa May gyda 92,153 o bleidleisiau, gyda'i wrthwynebydd, Jeremy Hunt yn cael 46,656.
Fe wnaeth Mr Johnson ddechrau ei apêl i Geidwadwyr Cymru yn yr hystings arweinyddiaeth yng Nghaerdydd trwy eu hatgoffa bod ei yrfa wleidyddol wedi dechrau fel ymgeisydd yn Ne Clwyd yn 1997.
Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach cafodd Mr Johnson ei friffio gan Alun Cairns cyn camu i'r llwyfan, ac roedd Ysgrifennydd Cymru ar gael i'w gynghori yn ystod ei araith hefyd.
Wyneb newydd yn Swyddfa Cymru?
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog newydd ddechrau rhoi siâp ar ei gabinet bron yn syth ar ôl ymweld â Phalas Buckingham, a byddai'n syndod pe na bai Mr Cairns yn cadw ei swydd.
Dywedodd AS Bro Morgannwg, wnaeth gefnogi ymgyrch Mr Johnson, ei fod yn "obeithiol" o barhau fel cynrychiolydd Cymru yng nghabinet Llywodraeth y DU.
Ond mae'n bosib bod newid ar lefel is yn Swyddfa Cymru yn fwy tebygol.
Mae cyfres o Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli seddi yn Lloegr wedi bod yn Swyddfa Cymru yn ddiweddar - gydag AS Torbay, Kevin Foster, y diweddaraf.
Mae'n bosib felly y caiff aelod o Gymru'r rôl, gydag AS Sir Fynwy, David Davies yn un enw sydd wedi'i grybwyll.
Yr awgrym yw bod Mr Davies wedi creu argraff ar gyd-aelodau Ceidwadol fel cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig.
Mae aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Simon Hart, yn un arall allai gredu bod ganddo gyfle i sicrhau'r swydd.
Mae'r dewis o ASau Cymreig wedi culhau yn ddiweddar, gyda saith sedd yng Nghymru yn perthyn i'r Ceidwadwyr ar hyn o bryd.
Bydd canlyniad isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ddechrau Awst yn penderfynu a fydd eu niferoedd yn dychwelyd i wyth.
Atgyfodi prosiectau mawr?
Mae prif weinidog newydd hefyd yn gyfle i drafod a fydd Swyddfa Cymru yn parhau neu'n cael ei chyfuno i ryw fath o adran ar gyfer gwledydd unigol y DU.
Ond mae'n annhebygol y byddai awydd i wneud hynny mewn cyfnod pan fo cymaint o faterion eraill ar blât y llywodraeth.
Mae Mr Johnson wedi addo adran newydd "uned i'r Undeb", gyda'r nod o wneud Llywodraeth y DU yn fwy ymwybodol o sut mae penderfyniadau yn cael effaith ar wledydd gwahanol y DU.
Un peth mae Mr Johnson yn adnabyddus amdano yw ei gefnogaeth i brosiectau mawr.
A fydd y cynlluniau ar gyfer prosiectau fel Wylfa Newydd a Morlyn Bae Abertawe yn cael eu hatgyfodi dan arweinyddiaeth Mr Johnson felly?
Amser a ddengys.
Bydd Mr Johnson, fel Ms May, yn awyddus i bwysleisio mai nid Brexit yw'r unig bwynt trafod yn ystod ei arweinyddiaeth, ond mae'n bendant o fod yn bwnc blaenllaw.
Mae ei addewid i adael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd Hydref, hyd yn oed heb gytundeb, yn mynd yn groes i rybuddion Llywodraeth Cymru y byddai hynny'n drychinebus i Gymru.
Mae ei awgrym y dylai'r Ceidwadwyr gael dylanwad cryf dros sut fydd arian sy'n cymryd lle'r hynny sy'n dod o'r UE ar ôl Brexit eisoes wedi codi gwrychyn Prif Weinidog Cymru.
Er hynny mae Mr Drakeford wedi croesawu addewid Mr Johnson y bydd Cymru'n derbyn yr un faint o arian gan Llywodraeth y DU ar ôl Brexit ag y maen nhw gan yr UE ar hyn o bryd.
Ond mae'n debyg mai canlyniad Brexit fydd yn penderfynu a fydd Mr Johnson yn cael ei ystyried yn llwyddiant yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019