Rhybuddio dynes am 'sylwadau amhriodol' ar sail hil
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Bort Talbot wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu ar ôl gwneud sylwadau ymosodol ac amhriodol ar y we.
Roedd cwmni tacsi Cardy Cabs wedi gwrthod honiadau o fod yn hiliol ar ôl iddyn nhw gyhoeddi hysbyseb oedd yn nodi nad oeddynt am gyflogi pobl o hiliau penodol.
Cyhoeddwyd yr apêl wreiddiol am yrwyr ar Facebook cyn i Janet Cardy, gwraig i berchennog y cwmni, ychwanegu sylwadau yn dweud nad oeddynt am gyflogi pobl o Bacistan a bod cwmni arall yn hoff o yrwyr "croen tywyll".
Cafodd Cardy, 62 oed, ei harestio ddydd Gwener ar amheuaeth o gyflawni troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ar sail hil.
Fe blediodd hi'n euog i'r cyhuddiadau ac mae hi wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu.
Sylwadau 'ffiaidd'
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi condemnio'r sylwadau ar yr hysbyseb ond yn dweud nad oes modd iddynt weithredu yn erbyn Cardy gan fod y drwydded yn enw ei gŵr.
Dywedodd Cardy wythnos ddiwethaf bod y sylwadau ar Facebook yn ymateb i gwynion ei chwsmeriaid: "Rydyn ni'n codi'r ffôn weithiau ac mae pobl yn dweud 'peidiwch â gyrru gyrrwr o dramor'.
"Dwi'n cael lot o strach gan gwsmeriaid am y mater. Does gen i ddim byd yn eu herbyn yn bersonol. Mae sawl un wedi gweithio i mi, ac mae un yn dal i weithio gyda ni nawr," meddai.
Mewn cyfweliad â'r BBC mynnodd Cardy nad oedd hi'n hiliol a'i bod hi wedi cyflogi sawl gyrrwr o Bacistan.
Ers y sylwadau mae BBC Cymru yn deall bod y cwmni wedi colli sawl cytundeb lleol a'u bod nhw mewn peryg o golli mwy.
Wrth ymateb i'r honiadau, fe ddywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood bod y sylwadau yn "ffiaidd".