Ysgolion yn colli arian oherwydd 'treth' prentisiaethau

  • Cyhoeddwyd
Apprentices with drill bitsFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Yr amcangyfrif yw bod sector cyhoeddus Cymru yn cyfrannu £30m i'r dreth yn 2017-18

Mae tua £4m wedi cael ei gymryd o gyllidebau ysgolion yng Nghymru i dalu ardoll prentisiaethau Llywodraeth y DU, medd cynghorau Cymru wrth BBC Cymru.

Mae un undeb athrawon wedi disgrifio'r mater fel "cywilyddus".

Mae cyflogwyr sydd â biliau cyflog o dros £3m yn talu'r ardoll neu dreth, er mwyn sicrhau bod cwmniau mawr yn cyfrannu at gost hyfforddi pobl ifanc.

Mae gweinidogion y DU yn dweud fod Cymru yn derbyn "cyfran deg" o'r ardoll, ac mai gweinidogion Cymru sy'n penderfynu sut i'w wario.

Ond mae gweinidogion ym Mae Caerdydd yn dweud fod yr arian yn cael ei lyncu'n rhannol gan doriadau eraill.

Lefel cyngor sir

Mae cyflogwyr sy'n talu cyfanswm o £3m neu fwy mewn cyflogau yn cyfrannu 0.5% o'u bil cyflog i'r ardoll prentisiaethau.

Mae ysgolion yn gallu dod o fewn hynny hyd yn oed os yw eu bil cyflog yn is na hynny, gan fod y dreth yn cael ei gwirio ar lefel awdurdod lleol.

Mae gan bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru fil cyflog o fwy na £3m.

Mae rhai o'r cynghorau yn cymryd yr arian o'u cyllidebau canolog, ond mae 13 wedi dweud wrth rhaglen Wales Live ar BBC Cymru eu bod wedi cymryd £3.8m yn uniongyrchol o gyllidebau ysgolion y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ei gyfanrwydd mae'r dreth wedi costio mwy na £13m i gynghorau Cymru yn 2017-18. Yr amcangyfrif yw bod y sector cyhoeddus cyfan wedi cyfrannu oddeutu £30m.

Cynllun i Gymru eisoes

Yn Lloegr mae cyflogwyr sy'n talu i'r gronfa yn cael derbynebau sy'n gallu cael eu cyfnewid i dalu am brentisiaethau.

Ond yng Nghymru mae'r arian sy'n cael ei gasglu yn cael ei drosglwyddo o'r Trysorlys i Lywodraeth Cymru, sydd wedyn yn penderfynu sut i'w wario.

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gynllun prentisiaethau ei hunan, felly dyw'r arian sy'n cael ei dalu fel ardoll gan ysgolion a chyflogwyr eraill yng Nghymru ddim yn mynd tuag at dalu am brentisiaethau yma.

O ganlyniad i'r ardoll, fe gafodd Cymru £128m yn 2017-18. Bydd hynny'n codi i £133m yn 2018-19 a £138m yn 2019-20.

Dywedodd Rob Williams o undeb NAHT Cymru na ddylai ysgolion orfod talu'r ardoll neu dreth.

"Dyw e ddim yn iawn," meddai. "Mae'n gywilyddus wir fod Cymru'n colli arian o ysgolion mewn cyfnod lle mae'r angen ar ei fwyaf."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rob Williams ni ddylai ysgolion orfod talu

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i wneud i'r system weithio i gyflogwyr ar draws y DU, a'u bod wedi cytuno ar fformiwla gyllido gyda gweinidogion yng Nghymru.

Ond meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi dweud wrth Lywodraeth y DU nad ydyn nhw'n credu fod yr ardoll yn gweithio.

"Mae'r ardoll yn cael ei orfodi ar Gymru, gan gynnwys y sector cyhoeddus, ar gost sylweddol," ychwanegodd.

"Mae unrhyw arian Barnett sy'n cael ei dderbyn o ganlyniad i'r ardoll wedi cael ei lyncu i raddau helaeth gan doriadau sydd wedi eu gwneud mewn meysydd eraill."

Mae'r BBC wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ymateb.

Gallwch wylio mwy ar Wales Live ar BBC 1 Cymru am 22:30 nos Fercher, 23 Mai.