Gareth Bale 'ar fin' arwyddo cytundeb â chlwb yn China

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n edrych yn debyg mai'r gêm yn erbyn Atletico nos Wener oedd yr un olaf i Bale yng nghrys Madrid

Mae Gareth Bale ar fin gadael Real Madrid er mwyn ymuno â chlwb Jiangsu Suning yn China ar gytundeb tair blynedd.

Mae ffynonellau sy'n agos i'r ymosodwr 30 oed wedi cadarnhau adroddiadau yn Sbaen bod cytundeb "yn agos iawn" ond heb ei gwblhau eto.

Yn ôl yr adroddiadau fe allai'r Cymro dderbyn £1m yr wythnos trwy symud i China.

Mae rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane wedi dweud ei fod yn "agos iawn at adael" ar ôl ei adael o'r garfan ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Bayern Munich.

Dywedodd Zidane bryd hynny petai Bale yn symud i glwb newydd taw dyna "fyddai orau i bawb".

Daeth oddi ar y fainc i sgorio yn erbyn Arsenal yng Nghwpan Pencampwyr Rhyngwladol yr wythnos diwethaf.

Ond dywedodd Zidane bod hynny'n "newid dim" a bod hi'n bosib taw honno oedd gêm olaf Bale iddyn nhw - er iddo chwarae hanner awr yn erbyn Atletico Madrid nos Wener.

Symudodd Bale i'r Bernabeu o Tottenham yn 2013 am £85m - record byd ar y pryd.

Mae ganddo dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb gyda'r clwb ble mae wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith.

Mae chwaraewyr sydd eisoes yn chwarae i Jiangsu yn cynnwys cyn ymosodwr rhyngwladol Yr Eidal, Eder a chwaraewr canol cae Brasil, Alex Teixeira.