Peilot awyren fechan wedi'i anafu'n ddifrifol yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion o'r AAIB yn ymchwilio i'r digwyddiad
Mae peilot awyren fechan wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl digwyddiad yn Sir Fynwy ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yng Nghlwb Gleidio De Cymru yn ardal Gwernesni, Brynbuga tua 12:45.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod y gleidiwr wedi troi wyneb i waered wrth godi i'r awyr.
Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd y peilot ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe gydag anafiadau difrifol, ond mae'n debyg nad ydy'r anafiadau'n rhai sy'n peryglu bywyd.
Mae swyddogion o'r tîm damwain awyr (AAIB) yn ymchwilio i'r digwyddiad.