Gwrthwynebu datblygiad hen neuadd farchnad ym Mlaenau

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y farchnad
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd y Farchnad, Blaenau Ffestiniog wedi bod yn wag ers blynyddoedd

Mae cwmni Mossley Hill wedi gwrthod honiadau eu bod nhw'n bwriadu darparu llety i bobl fregus o Loegr ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae gan y cwmni o Lerpwl gynlluniau i ddatblygu fflatiau ar gyfer pobl fregus ar safle hen neuadd farchnad y dref - fflatiau y maen nhw'n mynnu byddai ar gael i bobl leol.

Ond mae dros 1,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn erbyn y cynlluniau.

Ymysg pryderon y gwrthwynebwyr mae bwriad y cwmni i roi'r fflatiau i unigolion bregus o du hwnt i Wynedd ac i rai o ochr arall y ffin.

Cafodd y neuadd farchnad ei hadeiladu yn 1864 a'r gred yw mai dyma lle roddodd David Lloyd George araith wleidyddol am y tro cyntaf.

Mae'r adeilad wedi bod ar gau ers rhai blynyddoedd ond yn ei anterth roedd yn gallu dal dros 1,200 o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Thomas yn pryderu am yr effaith bosib ar yr iaith Gymraeg

Y cynllun ar hyn o bryd yw trawsnewid yr hen neuadd er mwyn creu 14 fflat i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.

Yn ôl Mark Thomas, sy'n aelod o gyngor tref Blaenau Ffestiniog, mae trigolion y dref yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

"Fe wnaeth dros 700 o bobl arwyddo'r ddeiseb yn erbyn y cynllun o fewn wythnos, ac erbyn hyn mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo," meddai.

"Dylen nhw edrych ar helpu'r bobl leol gyntaf yn hytrach na chael pobl yn dod i mewn i'r ardal sydd o bosib yn cuddio rhannau o'u gorffennol ac yn cael effaith negyddol ar y gymuned a'r iaith Gymraeg yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Annwen Daniels yn credu y dylid defnyddio'r adeilad "er lles y bobl leol"

Dywedodd Annwen Daniels, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd: "Mae'r teimladau ym Mlaenau yn hynod o gryf... mae pobl leol eisiau defnyddio'r adeilad er lles bobl yr ardal.

"Byddai hi'n grêt pe bai Cyngor Gwynedd yn gallu prynu'r adeilad a gwneud rhywbeth byddai o fudd i'r gymuned leol."

'Datblygwr cyfrifol'

Ond mae llefarydd ar ran datblygwyr y cynllun yn wfftio'r honiadau y byddai'r llety yn cael ei roi i bobl o du allan i'r ardal leol.

"Mae Mossley Hill yn ddatblygwr cyfrifol ac yn fuddsoddwr sy'n gweithio gyda chymunedau ac awdurdodau lleol ar hyd y DU er mwyn cynnig cefnogaeth i'r rai sydd ei angen fwyaf.

"Rydyn ni'n gweithio gydag elusennau er mwyn gallu darparu'r llety gorau bosib i'r oedolion fwyaf bregus yng nghymunedau Gwynedd."

Ychwanegodd: "Mae'n hi'n werth nodi y bydd staff lleol yn cael eu penodi er mwyn gallu darparu'r holl gefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw'n gweithio gyda nifer o grwpiau lleol ar brosiectau yn yr ardal ac yn adolygu'r defnydd o asedau lleol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd.

Bydd y cais cynllunio yn cael ei drafod gan gynghorwyr Gwynedd yn y dyfodol agos.