Dyfodol sinema Blaenau Ffestiniog 'yn saff am ddegawdau'

  • Cyhoeddwyd
Sinema Blaenau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwmni yswiriant y sinema wedi gwrthod talu am ddifrod a achoswyd yn ystod gaeaf 2017

Mae cydlynydd sinema gymunedol yn dweud bod ei dyfodol "yn hollol saff" wedi ymgyrch ar-lein i'w hachub.

O ganlyniad i'r ymateb i apêl ar y gwefannau cymdeithasol a ddenodd gefnogaeth yr actorion Rhys Ifans a Michael Sheen, mae'r targed ariannol i ddiogelu'r sinema ym Mlaenau Ffestiniog wedi ei gyrraedd.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Tachwedd i godi £10,000 ar gyfer gwaith atgyweirio angenrheidiol i gartref y sinema - canolfan CellB, sef hen orsaf heddlu'r dref.

Yn ôl cydlynydd y cwmni cymunedol Gwallgofiaid Cyf - sy'n rhedeg y sinema yng ers 2016 - fe fydd yn ailagor yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Rhys Roberts: "Yn 2019 fyddan ni'n ôl ar ein traed."

Disgrifiad,

"Mae pobol yn gweld gwerth y sgrîn fawr mewn cymuned"

Fe ddechreuodd y problemau, yn ôl Mr Roberts, ar ôl i gwmni yswiriant wrthod talu am ddifrod a gafodd ei achosi gan ddŵr y gaeaf diwethaf.

Ond mewn ymateb i'r ymgyrch ar dudalen crowdfunding fe ddaeth "cefnogaeth dros Gymru, Prydain, Jamaica a dros y byd i gyd".

"Mewn pedair wythnos nathon ni lwyddo i godi £10,500, sydd yn swm wych," meddai. "Mae pobol wedi codi pennau go iawn i gefnogi a pobol yn gweld gwerth y sgrîn fawr mewn cymuned.

"O'dd y neges yn dod o bob rhan o Gymru - pawb yn gweld y pwysigrwydd o gael sinema mewn cymuned, a'r pŵer 'na sy' gan y sgrîn fawr i bobol ifanc... dyfu fyny i fod yn bobol creadigol, hapus.

"Ma'r sinema yn saff am ddegawda' i ddod, gobeithio."