Y Cymro sy'n cadw trefn ar Man Utd ac AC Milan

  • Cyhoeddwyd
iwan

Dydd Sadwrn, 3 Awst bydd dau o dimau pêl-droed mwyaf Ewrop yn wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd, Manchester United ac AC Milan.

Gêm gyfeillgar yw hi ond mi fydd degau o filoedd o gefnogwyr yn Stadiwm Principality wrth i'r Red Devils wynebu'r Rossoneri.

Y dyn gyda'r chwiban yn ei law yn ceisio cadw trefn ar y chwaraewyr fydd Iwan Arwel Griffith o Bontnewydd, ger Caernarfon.

Mae Iwan yn newyddiadurwr gyda'r BBC ym Mangor o ddydd i ddydd, ond ar y penwythnosau mae i'w weld yn dyfarnu ar gaeau pêl-droed Cymru a thu hwnt.

Sut wnest di ddechrau dyfarnu?

Roedd ffrind i mi sy' bellach ar restr ryngwladol dyfarnwyr cynorthwyol Cymru, Gareth Wyn Jones, yn dyfarnu gêm yn ein pentref genedigol, Bontnewydd, a doedd ganddo neb i redeg y lein.

Dim ond 13 oeddwn i ar y pryd. Mi wnes i fwynhau'r profiad a mynd ar gwrs saith wythnos i ddysgu'r rheolau a sefyll arholiad ar y diwedd. Ar ôl pasio fe ddechreuais redeg y lein a dysgu gan ddyfarnwyr profiadol yn y Gogledd.

Disgrifiad o’r llun,

Iwan (ail o'r chwith) ar ddechrau ei yrfa dyfarnu, gyda Gareth Wyn Jones, Keith Davies a John Bryn Roberts yn Nhwrnamaint Ian Rush, Aberystwyth

Ym mha wledydd wyt ti wedi dyfarnu?

Ers i mi gael fy nghynnwys ar restr ryngwladol FIFA yn 2017 dwi wedi bod yn lwcus iawn i fod wedi cael dyfarnu mewn dros 20 o wledydd gwahanol, rhai mwy nag unwaith.

Un o'r llefydd mwyaf anghysbell oedd Ynysoedd y Faroe - dwi wedi bod yno dwywaith. Mae'n anodd iawn cyrraedd yno ac mae'r tywydd yn gallu newid yn sydyn.

Ymysg y gwledydd eraill dwi wedi teithio iddynt i ddyfarnu mae Twrci, Moldova, Slovakia, Serbia, Ffrainc, Y Swistir ac Estonia.

Oes gêm neu achlysur yn aros yn y cof?

Heb os yr achlysur sy'n aros yn y cof yw dyfarnu Rownd Derfynol Cwpan Cymru yn 2018 rhwng Aberystwyth a Chei Connah. Roedd popeth am y penwythnos penodol hwnnw'n berffaith.

Dyma yw pinacl gyrfa unrhyw ddyfarnwr, i gael dyfarnu rownd derfynol eich cwpan cenedlaethol.

Roedd y tywydd yn chwilboeth yn y Drenewydd ac roedd cael bod yn rhan o rownd derfynol cystadleuaeth mor eiconig yn fythgofiadwy.

Dau arall yn sicr yw cael bod yn rhan o gemau rhyngwladol Cymru. Dwi'n Gymro balch, felly mae cael cynrychioli fy ngwlad yn rhywbeth dwi'n hynod ffodus i gael ei wneud.

Roeddwn i'n bedwerydd swyddog yn ngêm olaf Chris Coleman fel rheolwr Cymru yn erbyn Panama, a dwi hefyd wedi cael sefyll ar yr ystlys rhwng dau eicon o'r byd pêl-droed pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Sbaen yn Stadiwm Principality: Ryan Giggs a Luis Enrique.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gêm Cymru yn erbyn Panama - gêm olaf Chris Coleman fel rheolwr y tîm cenedlaethol

Oes gen ti unrhyw arferion cyn gemau?

Fel arfer mae gan ddyfarnwr amrywiaeth o chwibanau yn ei fag, ac yn defnyddio un newydd pob ychydig fisoedd. Ond dwi dal i ddefnyddio'r un chwiban werdd ar gyfer pob gêm ers i mi gymhwyso fel dyfarnwr 16 mlynedd yn ôl.

Dwi yn ei golchi hi'n aml, ond mae'r chwiban fach werdd wedi bod dros y byd gyda mi yn dyfarnu a dwi'n warchodol iawn ohoni. Hefyd os dwi'n cael gêm wael dwi'n taflu'r cerdyn melyn a defnyddio un newydd ar gyfer y gêm nesaf. Dwi'n eithaf ofergoelus efo pethau fel hyn!

Disgrifiad o’r llun,

Iwan ar yr ystlys gyda Ryan Giggs, rheolwr Cymru, a Luis Enrique, rheolwr Sbaen, yn ystod gêm Cymru v Sbaen yn Stadiwm Principality, Hydref 2018

Sut ti'n delio ag unrhyw wawdio ar y cae? Ydy o'n anodd ei anwybyddu?

Dyma yw'r un o'r pethau anoddaf wrth ddyfarnu. Dwi wedi cael hyfforddiant ynglŷn â sut i ddelio â chwaraewyr neu dorf sydd yn eich sarhau. Prin iawn yw'r sylwadau personol, ac mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr yn ymddiheuro ar ddiwedd y gêm.

Mae pêl-droed yn gêm emosiynol iawn ac mae rhai chwaraewyr yn cael eu dal yn yr emosiwn weithiau. Dwi ddim yn gadael i unrhyw sylwadau brwnt effeithio arna i.

O ran y dorf, mae hi'n anodd iawn clywed lleisiau unigol pan mae miloedd yn gwylio'r gêm. Dim ond sŵn sydd i'w glywed ar y cae. Pan rydych chi'n canolbwyntio cymaint ar yr hyn sy'n digwydd ar y cae dydych chi ddim yn cymryd sylw o'r dorf, boed 200 yn gwylio neu 20,000.

Lle ydy'r lle mwyaf bygythiol i ti ddyfarnu ynddo?

Dau le sy'n dod i'r cof. Roedd Serbia yn danllyd. Ond diolch byth cefais gêm eithaf da yno wrth ddyfarnu eu tîm dan 21 yn erbyn Gibraltar felly roedd y dorf yn gadael llonydd i mi.

Ond roedd hi'n amlwg fod y bobl yno yn angerddol iawn am bêl-droed a chwaraewyr y tîm cenedlaethol. Dwi'n cofio camu allan ar ddiwedd y gêm i'r maes parcio a miloedd o gefnogwyr yno yn disgwyl i gael cwrdd â'u harwyr.

Mae'r cefnogwyr yn Malta hefyd yn angerddol iawn ac maen nhw'n rhoi gwybod i chi os yr ydych yn gwneud unrhyw gamgymeriad ar y cae.

Ffynhonnell y llun, Nick Taylor/Liverpool FC
Disgrifiad o’r llun,

Iwan gyda Adam Lewis a Dejan Joveljic (capteiniad Lerpwl a FK Crvena Zvezda) cyn gêm Cynghrair Ieuenctid UEFA, Hydref 2018

Bydd yna wahaniaeth yn y ffordd rwyt ti'n mynd ati i ddyfarnu gêm ar lefel cynghrair yng Nghymru a gêm rhwng AC Milan a Manchester United?

Mae'r ffordd fydda i'n paratoi ar gyfer y gêm yn union yr un fath. Ond yn amlwg bydd safon y chwaraewyr a chyflymdra'r gêm yn hollol wahanol i'r hyn dwi'n arfer ei ddyfarnu yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae UGC yn gynghrair corfforol iawn, ble mae gemau fyddai'n cynnwys timau fel Man Utd er enghraifft yn cynnwys chwaraewyr gyda gallu technegol llawer gwell, felly mae'n rhaid i mi addasu fy ngêm ychydig hefyd.

O'r hogiau ifanc rwyt ti wedi eu dyfarnu yn ddiweddar, pwy wyt ti'n meddwl fydd sêr mawr y dyfodol?

Y chwaraewr ifanc gorau i mi ei weld ar lefel dan 16 oedd Tyler Roberts [chwaraewr Leeds a Chymru]. Dwi'n cofio dyfarnu gemau'r Victory Shield flynyddoedd yn ôl pan oedden nhw'n cael eu chwarae ar Faes Bangor. Roedd Tyler yn chwaraewr arbennig ac mi oeddwn wastad yn gwybod y byddai'n mynd ymlaen i chwarae ar lefel uwch.

Y chwaraewr ifanc eraill yw Tammy Abraham a Demari Gray i Loegr. Fe wnes i ddyfarnu Trent Alexander Arnold hefyd mewn gêm ar faes Wolves fis cyn iddo gael ei alw fyny i garfan Cwpan y Byd Lloegr y llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Y tim dyfarnu cyn gêm Lloegr dan 21 v Rwmania dan 21 yn Stadwim Molineux - gêm deyrnged i'r diweddar Cyril Regis. Y ddau lumanwr oedd Ian Bird a Johnathon Bryant

Sut wyt ti'n paratoi i ddyfarnu gêm gyda chwaraewyr (e.e Pogba) sydd wedi ennill Cwpan y Byd? Fyddi di'n nerfus?

Prin iawn dwi'n mynd yn nerfus cyn gêm. Yn sicr unwaith bydda i wedi cyrraedd y stadiwm fydda i byth yn teimlo'n nerfus.

Fydda i'n ceisio trin pob chwaraewr yr un fath. Dwi byth yn mynd yn starstruck wrth gwrdd â chwaraewyr gan fod rhaid i mi ymddwyn yn broffesiynol. Dwi wedi cwrdd â nifer o chwaraewyr 'mawr' y byd fel Sergio Ramos, Gareth Bale, Aaron Ramsey ac wedi eu trin yr un fath ag unrhyw chwaraewr arall.

Dwi yno i wneud fy ngwaith fel maen nhw yno i wneud eu gwaith hwythau, felly dyna'r berthynas sydd gen i gyda'r chwaraewyr sy'n chwarae unrhyw gêm rydw i'n rhan ohoni.

Hefyd o ddiddordeb: