Pam cefnogi Partizan Belgrade yn erbyn Cei Connah?
- Cyhoeddwyd
Nos Iau, 1 Awst, mae Clwb Pêl-droed Cei Connah yn wynebu F.K. Partizan Belgrade o Serbia, yn y gêm fwyaf yn hanes y clwb o Lannau Dyfrdwy.
Enillodd F.K. Partizan y cymal cyntaf 1-0 yn stadiwm Belle Vue, Y Rhyl, ar 25 Gorffennaf, ac felly bydd gan fechgyn Andy Morrison dipyn o dasg ar eu dwylo draw yn Serbia.
Bydd yr enillydd yn mynd ymlaen i chwarae yn nhrydedd rownd gemau rhagbrofol Cynghrair Europa UEFA 2020, gyda siawns o gyrraedd rownd y grwpiau yn erbyn rhai o fawrion pêl-droed Ewrop.
Un Cymro sydd yn byw yn ninas Belgrâd ac yn cefnogi clwb Partizan yw Rhys Hartley, sy'n wreiddiol o Gaerdydd. Esboniodd Rhys sut ddaeth yn gefnogwr pybyr o'r clwb a gobeithion y Cymry yn y gêm yn y Stadion Partizana.
Pan symudais i Felgrâd ym mis Medi 2015, roedd rhaid dewis tîm. Ers o'n i'n 6 wythnos oed, ro'n i wedi arfer gwylio pêl-droed byw bron bob bore' Sadwrn a doedd symud dramor ddim am fy stopio!
Wedi tyfu lan mewn teulu o gefnogwyr Dinas Caerdydd oedd yn y cynghreiriau is, ac wedi dilyn pêl-droed non-league tra yn y brifysgol yn Llundain, do'n i ddim cweit yn siŵr ble i fynd.
Fe drïais i Rad (y tîm ffasgaidd), OFK (oedd yn boycotio), Voždovac (sy'n chwarae ar ben canolfan siopa), ac wrth gwrs Red Star (wnaeth ennill Cwpan Ewrop ym 1991), ond un tîm a gipiodd fy nghalon - Partizan.
Efallai achos eu bod nhw wedi chwarae gartre neu ym Melgrâd bron bob penwythnos yn yr wythnosau cyntaf, neu achos i fi symud i ardal yn llawn graffiti a murluniau o gewri'r clwb - cefnogwyr a chwaraewyr - ond ro'n i'n set. Dechreuais fynd i bob gêm a sefyll gyda'r wltras, y Grobari (Cloddwyr Beddau).
Dysgais bron a bod pob cân, ac mi wnes i ddigonedd o ffrindiau newydd, gan ddechrau mynd i gemau oddi cartref. Wedi colli i Augsburg yng nghynghrair Europa y Rhagfyr hwnnw, ro'n i mor gandryll - ro'n i wedi teimlo fy ngwaed yn troi'n ddu a gwyn. Dwi bellach wedi bod yn ddaliwr tocyn tymor am dri thymor, ac wedi gwylio Partizan ledled y wlad ac Ewrop!
Fel un o'r ddau dîm mwya' yn Serbia (a chyn-Iwgoslafia), mae dilyniant i'r clwb ledled y wlad a'r ardal. Serch hyn, yn y tymhorau d'wetha mae niferoedd yn y stadiwm yn isel iawn.
Fysen i'n synnu tase'r dorf ar gyfartaledd llynedd yn fwy na ryw 3,000, mewn stadiwm sy'n dal 30,000! Mae sawl rheswm am hyn: diffyg gemau mawr a disgwyliad enfawr, mewnfrwydro rhwng y cefnogwyr, a theimlad bo' 'na lwgrwobrwyo yn rhedeg y gêm ddomestig.
Ers y 2010au cynnar mae tri grŵp o gefnogwyr Partizan yn brwydro am reolaeth y stand ddeheuol - cartref ysbrydol y cefnogwyr - gyda sawl yn meddwl mai cyffuriau sydd y tu ôl i'r dadlau. Ac, ers i'r Arlywydd Vučić ddod i'r llyw yn 2014, mae sawl penderfyniad ar y cae (a digon o arian oddi arni hi) wedi mynd ffordd ein gelynion.
Nawr, mae'r cefnogwyr yn gweld llwyddiant yn Ewrop fel rhywbeth all y clwb reoli heb ymyrraeth y llywodraeth. Llynedd, roedd y stadiwm bron yn llawn wrth i ni gael gêm gyfartal yn erbyn Besiktas yn y gêm ragbrofol olaf (fe gollon ni 3-0 oddi cartref), a dwi'n gobeithio y bydd yna gefnogaeth go lew nos Iau hefyd.
Hwn ydy gêm gartre gynta'r tymor i'r Grobari, ac ar ôl i dorf dda deithio i Indjija ar gyfer y gêm agoriadol, dylai fod ychydig o filoedd yn fwy na chyfartaledd llynedd - neu o leiaf dwi'n gobeithio!
Bydd awyrgylch ryfedd, gyda thri grŵp o gefnogwyr yn trio canu dros ei gilydd, ond dylai fod yn gyffrous iawn i chwaraewyr a chefnogwyr Cei Conna.
Bydd digon o goreograffi, gyda baneri a chefnogwyr yn dawnsio a bloeddio mewn un, ond fyddai'n synnu tase unrhyw dân gwyllt, gan bo'r cefnogwyr yn gwybod y gall cosb arall gan UEFA olygu ein bod ni'n cael ein gwahardd o gystadlaethau cyfandirol!
O ran be' i ddisgwyl ar y cae, o'n wedi siomi o'r ochr orau gan Gei Connah wythnos d'wetha. Ie, fe fu'n rhaid iddyn nhw chwarae ychydig yn frwnt er mwyn rhwystro Partizan, ond fe lwyddon nhw i ddadbwyso'n chwaraewyr ni - gyda Stojković a Tošić yn enwedig yn colli eu pennau!
Mi oedd Partizan yn haeddu'r fuddugoliaeth, a dylai'r gôl yna setlo'r nerfau ychydig bach cyn gêm nos Iau gan adael i'r du a'r gwynion chwarae â mwy o ryddid.
Ar gae mwy, gwell, dwi'n disgwyl i safon Partizan ddangos. Cofiwch - mae chwaraewyr fel Tošić wedi chwarae ar y lefel ucha' yng Nghynghrair y Pencampwyr a Chwpan y Byd, gydag amddiffynwr Partizan, Pavlović, yn debygol o arwyddo i Juventus ddiwedd yr haf.
Os all Cei Connah ei chadw hi'n agos tan y 10 munud ola', fel iddyn nhw wneud yn Y Rhyl, yna fydd siawns i Partizan banicio a daw siawns am gôl. Ond os wneith Partizan sgorio'n gynta', fydd dim siawns gan y Cymry.
Pob lwc i Gei Connah ond fydda i'n gweiddi Napred Partizan!