Y clwb pêl-droed o'r Almaen sy'n hybu'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
matondoFfynhonnell y llun, TF-Images

Ar ddiwedd Ionawr daeth y newyddion bod y Cymro ifanc o Gaerdydd, Rabbi Matondo, yn ymuno â chlwb pêl-droed Schalke 04 yn Yr Almaen.

Gadawodd Matondo, sy'n 18 oed, Manchester City er mwyn ceisio gwneud enw i'w hun yn y Bundesliga, prif adran Yr Almaen.

Ond ers i Rabbi symud i Gelsenkirchen (y ddinas lle mae Schalke 04 wedi'i leoli), mae'r clwb wedi bod yn hyrwyddo'r Gymraeg ar un o'u cyfrifon Twitter, Schalke 04 USA.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Schalke 04 USA

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Schalke 04 USA

Siaradodd Cymru Fyw gyda Thomas Spiegel, pennaeth cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus Schalke 04.

"Fe ddechreuon ni drydar yn Gymraeg pan wnaeth Rabbi Matondo arwyddo i Schalke 04. Roedden ni'n gwybod y byddai sylw llawer o Gymry yn troi at y clwb, ac o ganlyniad, ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod negeseuon amlieithog yn gwneud yn dda gyda chefnogwyr o ardaloedd lleol y chwaraewyr.

"Fe wnaethon ni drydar 'Croeso i Schalke' yn spontaneous - syniad ein asiantaeth MMC oedd hyn. Roedden ni'n gobeithio y byddai'n cael dipyn o sylw, ond roedd yn syndod i ni gymaint roedd pobl yn ei hoffi.

"Fe wnaeth hynna roi'r syniad i ni wneud #DailyWelsh er mwyn cario 'mlaen a meithrin y berthynas gyda chefnogwyr newydd."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan Schalke 04 USA

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan Schalke 04 USA

Felly ydy cefnogwyr pêl-droed Yr Almaen yn ymwybodol o Rabbi? Beth maen nhw'n feddwl?

"Wrth gwrs! Mae'r cefnogwyr wedi sylwi bod lot o chwaraewyr ifanc dawnus yn dod o Ynysoedd Prydain," meddai Thomas. "Ond bod nhw efallai ddim yn cael y profiadau.

"Mae'r Sais ifanc Jadon Sancho bellach yn un o'r chwaraewyr mwyaf cyffrous yng nghlwb Borussia Dortmund, ac mae Bayern (Munich) i'w weld â diddordeb yn Callum Hudson-Odoi (o Chelsea).

"Felly mae pobl yma wedi bod yn agored iawn i'r syniad o arwyddo bachgen yn ei arddegau o Manchester City.

"Mae angen i Rabbi addasu i'r Bundesliga, a dwi'n siŵr y bydd gydag amser. Bydd yn cael amser ar y cae gyda Schalke, ac mi fydd yn gwella yn sgil hynny. Mae ei gyflymdra wir yn creu argraff."

Os bydd Rabbi yn creu argraff efallai y bydd prif gyfrif Twitter Schalke 04 yn trydar yn gyson yn Gymraeg, meddai Thomas: "Pan fydd Rabbi yn sgorio gôl fuddugol mewn gêm am y tro cyntaf, mae'n debyg bydd y tweet sydd i ddilyn yn Gymraeg!"

GelsenkirchenFfynhonnell y llun, Jamie McDonald
Disgrifiad o’r llun,

Y Veltins-Arena yn Gelsenkirchen, cartref newydd Rabbi Matondo

Eleni mae Schalke wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr, lle maen nhw'n wynebu cyn-glwb Rabbi, Manchester City, dros ddau gymal.

Ond beth am unrhyw sêr eraill o Gymru - pwy arall sy'n creu argraff yn Schalke?

"Dwi ddim am ddechrau unrhyw transfer rumours yma! 😉" meddai Thomas Spiegel.

"O safbwynt cefnogwr pêl-droed, roedd Cymru yn wych yn ystod Euro 2016. Gareth Bale oedd y seren gyda Aaron Ramsey yn ail agos. Ond yn hanesyddol wrth gwrs mae Ryan Giggs, Ian Rush a Mark Hughes yn dod i'r meddwl."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 3 gan Schalke 04 USA

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 3 gan Schalke 04 USA

"Cafodd Schalke 04 ei sefydlu gan feibion i lowyr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r diwydiant glo wedi gadael ei ôl ar y clwb a'r ardal gyfan.

"Fel teyrnged i hyn mae'r clwb dal yn defnyddio'r cyfarchiad y byddai glowyr yn ei ddefnyddio, 'Glück auf!' sy'n golygu y byddai'r gweithwyr yn dychwelyd adref yn saff wedi eu shifft yn gweithio dan ddaear. Beth fyddai hynny yn Gymraeg tybed?"

Felly, mewn rhyfedd o fyd mae'r bachgen o dde Cymru'n symud i glwb sydd â'r diwydiant pyllau glo wrth galon ei hunaniaeth. Cawn weld dros y misoedd nesaf os Bydd Rabbi'n creu argraff yn y Bundesliga.

matondoFfynhonnell y llun, TF-Images
Disgrifiad o’r llun,

Matondo ac un o amddiffynwyr Fortuna Duesseldorf, Kevin Stoeger, Chwefror 6, 2019.