'Newidiadau positif' i amser ymateb ambiwlans
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest i farwolaeth dyn a fu farw ar ôl dioddef ataliad ar y galon fod y gwasanaeth ambiwlans wedi gwneud "newidiadau positif" yn y ffordd maen nhw'n ymateb i alwadau brys yn dilyn y pwysau ar y gwasanaeth yn ystod gaeaf 2018.
Bu farw Howard Croft, 70 o New Brighton ger yr Wyddgrug ar 23 Chwefror y llynedd.
Fe ffoniodd ei wraig 999 dair gwaith cyn i ambiwlans gyrraedd ei gartref pan oedd yn dioddef o boenau yn ei frest wedi iddo ddychwelyd o wyliau yn Sbaen.
Daeth y crwner, Elizabeth Dudley-Jones, i'r casgliad fod y wybodaeth a roddwyd i atebwr ffôn y gwasanaeth ambiwlans ar y pryd yn golygu fod y gwasanaeth wedi bod yn iawn i osod galwad Mr Croft yng nghategori Oren 1 - ac nid coch, sy'n golygu byddai ambiwlans wedi cyrraedd yno o fewn 8 munud.
'Penderfyniadau gofalwyr'
Erbyn i gar yr ambiwlans gyrraedd, roedd Mr Croft wedi dioddef ataliad ar y galon. Deng munud ar ôl cyrraedd yr ysbyty daeth cadarnhad fod Mr Croft wedi marw.
Yn ôl y crwner, mae'r gwasanaeth ambiwlans bellach wedi newid y ffordd maen nhw'n ymdopi gyda galwadau ac mae'r atebwr ffon bellach yn rhoi gwybod faint fyddai claf yn gorfod aros cyn i ambiwlans gyrraedd.
Mae'r newidiadau medd y crwner yn golygu fod "gofalwyr bellach yn gallu gwneud penderfyniad", os bydden nhw'n mynd â'r claf i'r ysbyty eu hunain.
Daeth y crwner i'r casgliad fod Mr Croft wedi marw o achosion naturiol.