Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Barrow
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Wrecsam frwydro nôl er mwyn sicrhau buddugoliaeth gartref yn gêm gyntaf y tymor.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen, peniad Josh Granite yn dilyn cic rydd yn curo golgeidwad Wrecsam Christian Dibble.
Fe wnaeth Scott Quigley a Dior Angus wastraffu cyfleoedd da cyn i JJ Hooper ddod â'r sgôr yn gyfartal wedi'r egwyl.
Peniad Bobby Grant o groesiad Hooper wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.