Urddo Cadno, Siryf a Chyfryngfab i Orsedd y Beirdd
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau o chwaraewyr rygbi Cymru a'r Llewod, Ken Owens a Jonathan Davies, eu hurddo i'r wisg las yng nghyfarfod cyntaf yr Orsedd ar faes y Brifwyl eleni.
Roedden nhw, a 34 arall, yn cael eu croesawu i'r Orsedd fore Llun gan yr Archdderwydd Myrddin, a hynny am eu cyfraniad arbennig i Gymru.
Hefyd yn cael ei urddo oedd y darlledwr Aled Samuel a gymerodd yr enw barddol Cyfryngfab.
Yn ystod y seremoni wrth y maen llog roedd prif enillwyr Eisteddfodau Cenedlaethol Ynys Môn a Chaerdydd yn derbyn y wisg wen, ac roedd graddedigion y Gymraeg a cherddoriaeth, y rheiny a ymgeisiodd drwy arholiad a phrif enillwyr Eisteddfod yr Urdd 2018 yn derbyn y wisg werdd.
"Roedd yn brofiad gwych i fi," meddai Jonathan "Fox" Davies, a fydd yn cael ei adnabod yn yr orsedd fel Jon Cadno.
Ychwanegodd y canolwr, sy'n wreiddiol o Fancyfelin yn Sir Gaerfyrddin: "I gael fy enwi yn yr Orsedd, ma' fe'n foment browd iawn i fi, a [dwi] jyst yn falch o fod yn rhan o rywbeth fel hyn heddi."
Mae Ken Owens - neu Ken y Siryf - wedi bod yn dod i'r Eisteddfod ers nifer o flynyddoedd, a dywedodd ei fod yn "meddwl lot" i gael ei urddo.
"Chi'n gweld nifer o ffrindiau a phobl sy'n byw yn ddigon agos sy'n cerdded mewn yn rhan o'r Orsedd," meddai'r bachwr o Gaerfyrddin.
"A hefyd ma' hanes rhwng rygbi yng Nghymru a'r Orsedd, fel [Robin] McBryde, Ray Gravell, a George North a Jamie Roberts yn rhan o'r Orsedd hefyd, felly mae'r hanes yna rhwng y ddou yn enfawr, ac mae'n rhywbeth pwysig i gadw fynd a dathlu."
Bydd mwy o bobl yn cael eu hurddo pan fydd yr Orsedd yn cyfarfod fore Gwener - yn eu plith y digrifwr Tudur Owen, y newyddiadurwraig Bethan Kilfoil, y diddanwr Geraint Lovgreen a'r cerddor Catrin Finch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019