Guto Dafydd yn cipio coron Eisteddfod Sir Conwy 2019

  • Cyhoeddwyd
Coroni Guto Dafydd yn 2019Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r eildro i Guto Dafydd ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol

Guto Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Daeth y bardd ifanc o Bwllheli i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 29 o geisiadau.

Cyflwynwyd y Goron am ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd, ac heb fod dros 250 o linellau, ar y pwnc Cilfachau.

Mewn cystadleuaeth hynod gref, dywedodd Ceri Wyn Jones wrth draddodi'r feirniadaeth fod 'Saer nef' wedi ennill "o drwch y blewyn teneua' yn hanes blew tene eriôd".

Y beirniaid eraill oedd Manon Rhys a Cen Williams.

Cystadleuaeth glos iawn

Dywedodd Ceri Wyn Jones bod hi'n agos iawn rhwng Saer nef ac OS, a bod "un neu ddou arall [oedd] wedi bod yn curo wrth y drws hefyd".

Roedd Manon Rhys o blaid coroni OS, Cen Williams ffafrio Saer nef, a Ceri Wyn Jones ei hun "am iddi fynd i Saer nef ac OS, ond o drwch y blewyn teneua' yn hanes blew tene eriôd, Saer nef sy' ar y bla'n, OS yn ail, a'r Priddyn Coch a Fersiwn Arall ar eu sodle nhw 'fyd.

"Am gerddi sy'n ein difyrru, ein hanesmwytho a'n cyffroi, felly, ma'r Goron leni yn mynd i Saer nef, ac ma'r tri ohonon ni yn ei longyfarch yn fawr."

Dywedodd bod arddull y gwaith buddugol yn "fwy sgyrsiol uniongyrchol, weithie'n ddigon ffwrdd-â-hi ac amrwd, weithie'n dwyllodrus o goeth, ond y cwbwl yn swnio mor naturiol, hyd yn o'd yr iaith lafar lai na safonol ar brydie...

"Ma'r llais gwahanol hwn yn ein herio, ein pryfocio, a'n hysgwyd. Mae'n hala ni i wherthin ac i dagu. Ac os nad yw wastad yn ddifrifol, y mae ynte, fel OS, yn fardd o ddifri'."

Disgrifiad o’r llun,

Guto oedd un o'r ieuengaf erioed i ennill Coron y Brifwyl pan enillodd yn Eisteddfod Sir Gâr yn 2014

Enillydd profiadol

Yn wreiddiol o Drefor, mae Guto'n byw ym Mhwllheli gyda'i wraig, Lisa, a'u plant, Casi a Nedw, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd.

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016.

Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017.

Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor ac mae bellach yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg.

Disgrifiad,

Seremoni'r Coroni / Crowning Ceremony

Dywedodd wedi'r seremoni: "Mae'n brofiad anhygoel. Ro'n i'n rhannu fo heddiw efo'r plant ac yn gweld rhyfeddod Casi, fy merch i, ar fy nglin i, wrth i'r Orsedd ddod i mewn, ac roedd hynny'n fythgofiadwy.

"O'n i 'di dychmygu 'swn i 'di ymlacio mwy, ac y bysa'r holl brofiad yn gyfarwydd, ond na, roedd y nerfau yr un fath, achos bod yr achlysur dal yr un mor fawr.

"Yn amlwg doedd hi ddim yn unfrydol rhwng y beirniaid ac mae hynny'n beth da.

"Mae'n dangos bod 'na gryfder, cymaint o gerddi da, cymaint o feirdd da yng Nghymru ar hyn o bryd, a dwi'n lwcus mod i 'di sleifio drwy'u canol nhw.

"Mae 'na bob math o themâu yn y cerddi, dwi'n sôn am grefydd, dwi'n sôn am brofiadau personol, dwi'n sôn hefyd am ein hiaith a'n cymunedau ym Mhen Llŷn, mae 'na amrywiaeth yna.

"Does genai'm neges fawr, does genai'm maniffesto dwi'n trio'i gyhoeddi drwy'r cerddi 'ma. Ymateb personol ydyn nhw i fyw ym Mhen Llŷn, ac os oes 'na neges, y neges ydy ei bod hi'n iawn delio efo ansicrwydd, mae'n iawn bod yn ansicr yn y dyddiau eitha' tywyll yma, a ffeindio rhesymau i obeithio."