Guto Dafydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod ddydd Mawrth.
Cyfnod o chwe wythnos yn derbyn triniaeth radiotherapi mewn ysbyty ym Manceinion yn 2015 yw sail ei nofel fuddugol 'Ymbelydredd'. Dywedodd y beirniaid fod y nofel yn un gyfoes ac Ewropeaidd - gydag arddull gynnil, synhwyrus ac athronyddol iddi.
Enillodd Guto Dafydd y Goron ddwy flynedd yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, a Choron Eisteddfod yr Urdd yn 2013. Yn enedigol o Drefor, aeth i Ysgol yr Eifl, Trefor, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.
Tasg y naw a ymgeisiodd eleni oedd creu nofel heb ei chyhoeddi heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, a'r wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, sydd wedi ei gyflwyno gan Gymuned Llanofer.
Triniaeth
Fe esboniodd Guto Dafydd fod y nofel yn seiliedig ar ei gyfnod yn cael triniaeth radiotherapi dwys: "Mae hi'n seiliedig ar fy mhrofiad i, mae 'na elfennau ynddi sy'n ffuglen, ond mae o'i gyd yn seiliedig ar y profiad ges i o radiotherapi am chwe wythnos bob dydd ym Manceinion.
"O'n i'n creu y naratif o gwmpas yr hyn oedd yn digwydd i mi. Mae yna bethau anghyfreithlon yn digwydd yn y nofel, wnes i ddim gwneud dim un o'r rheiny. Ond o'n i eisiau mynd ar ôl y genre yma... achos mae'n eitha llwm yn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd o bosib, lle mae lot o bobl yn sgwennu yn yr un ffurfiau, fawr ddim newydd yn digwydd, o'n i isho gneud rhywbeth arloesol.
"O'n i isho cyfuno ffaith a ffuglen mewn ffordd sy'n dod ag ychydig bach o ddyfeisgarwch falle i mewn i lenyddiaeth."
Nofel Ewropeaidd
Roedd hefyd yn falch fod y beirniaid o'r farn bod tinc Ewropeaidd i'r nofel:
"Dwi ddim yn siarad unrhyw ieithoedd Ewropeaidd, dwi'n cael prin ddim amser i ddarllen, ond dwi'n falch iawn eu bod wedi dweud hynny achos o'n i isho dwad ag elfen chydig bach yn wahanol i mewn i'r nofel, rhywbeth da ni ddim yn ei gael mewn llenyddiaeth Gymraeg fel arfer.
"Roedd yna gyfnod yn nechrau'r 90au, pan oedd enillwyr prif wobrau rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol wir yn torri tir newydd. Dwi'n meddwl bod angen cyfnod o'r fath heddiw. Dwi ddim yn meddwl bod y nofel yma ar ei phen ei hun yn ddigon da i wneud hynny, ond dwi'n gobeithio ei fod yn gyfraniad a'i fod o'n ddechrau.
"Mae 'na naratif ynddi hi, mae hi'n chydig bach o thriller gobeithio, ond hefyd mae yna elfen fwy deallusol, mae yna ysgrifau, mae yna adolygiadau o fewn naratif y nofel. Dwi'n gobeithio bod 'na rywbeth ynddi hi i blesio pawb.
"Dwi'n bwriadu ymddeol rwan. Mae'n ormod o waith!"
'Nofel wych'
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Jon Gower, Fflur Dafydd a Gareth F Williams, ac wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Jon Gower: "Nofel yw Ymbelydredd gan '246093740' am yr hyn a ddigwydd i ŵr ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi ym Manceinion.
"Mae hon yn nofel wych, ac mae'r awdur i'w ganmol, nid leiaf oherwydd iddo lwyddo i osgoi unrhyw sentimentalrwydd a fuasai wedi baglu nifer o awduron llai medrus.
"Mae'r ffaith i'r nofel gael ei lleoli ym Manceinion, ac i'r byd anghyfarwydd, dinesig hwn gael ei ddarlunio trwy lygaid Cymro, hefyd yn chwa o awyr iach, ac mae'r arddull yn llwyddo i fod yn gynnil ond eto'n synhwyrus, yn ddadansoddiadol, ac yn athronyddol. Er i'r awdur wneud bob ymdrech i gryfhau'r naratif trwy wau is-blot terfysgol i mewn i'r stori, ar adegau roedd hyn yn teimlo fel gorymdrech ar ran yr awdur.
"Wedi dweud hynny tipyn o gamp yw creu nofel sy'n teimlo'n gyfoes ac yn Ewropeaidd, tra'n llwyddo i fod yn gwbl Gymreig ar yr un pryd - ac mae'n cynnwys dychan digon tywyll ar adegau, sy'n gwneud i ni ystyried ein diwylliant a'n traddodiadau o'r newydd.
"Dyma'r awdur sydd â'r weledigaeth gryfaf, ddifyrraf, ac ef neu hi sy'n haeddu'r wobr hon eleni, gyda nofel rymus a fydd yn cyfoethogi bydoedd yr holl ddarllenwyr a ddaw ar ei thraws."
Cyhoeddiadau
Mae Guto Dafydd wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, nofel dditectif i bobl ifanc, a nofel i oedolion yn y gorffenol. Mae'n byw ym Mhwllheli gyda'i wraig Lisa a'u plant, Casi Mallt a Nedw Lludd.
Mae'n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg fel Swyddog Cydymffurfio. Yn ei amser hamdden, mae'n drysorydd Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr ac yn aelod o bwyllgor gwaith Barddas.