Canser: 'Dynion ddim yn gofyn am gymorth colli gwallt'
- Cyhoeddwyd
Wrth dderbyn triniaeth am ganser Ewing Sarcoma yn 2015, fe wnaeth William Rees golli ei wallt i gyd mewn wythnos.
Nawr, ag yntau'n 21 oed, mae wedi dygymod â cholli ei wallt - rhywbeth oedd yn anodd ei dderbyn ar y dechrau.
Mae dynion yn llawer llai tebygol o ofyn am gymorth colli gwallt wrth dderbyn triniaeth canser, yn ôl ffigyrau gan bedwar bwrdd iechyd.
Yn ôl elusen Macmillan, mae dynion hefyd yn llai tebygol o drafod eu profiadau o golli eu gwallt gyda gweithwyr iechyd.
'Ei golli i gyd mewn wythnos'
Roedd William, o Fro Morgannwg, ar fin cychwyn ei arholiadau Lefel A pan gafodd wybod bod ganddo ganser yr esgyrn.
Fe gollodd ei goes o ganlyniad i'r canser - newid sydd wedi rhoi ei fywyd "mewn persbectif", meddai.
Yn ogystal â'r effaith corfforol gafodd y canser, gydag amser, cafodd sgil effeithiau'r cemotherapi effaith arno hefyd.
"O'n i'n gwybod bod pobl sy'n cael cemotherapi bron bob tro yn colli eu gwallt - 'efo rhai maen nhw'n colli bach o wallt, ond gyda fi o'n i wedi colli fy ngwallt i gyd mewn wythnos, ac yn really, really sâl," meddai.
Gan ei fod mor sâl yn ystod misoedd cyntaf ei salwch, doedd William ddim yn poeni'n ormodol am golli ei wallt.
Ond fe ddechreuodd boeni dros y flwyddyn ganlynol, pan sylweddolodd bod ei wallt ddim am dyfu'n ôl - yn groes i'r hyn oedd yn ei obeithio.
"O'n i'n 18, 19, ac yn edrych llawer yn hŷn nag oeddwn i. Yn enwedig ar ôl y driniaeth, doedd fy nghroen i ddim yn dda chwaith, felly doedd hynny ddim yn grêt," meddai.
"Oherwydd 'mod i'n teimlo'n hŷn, ac yn edrych yn hŷn, doedd siarad efo merched bryd hynny ddim ar y radar.
"O'n i jest ddim yn teimlo fel 'mod i'n gallu - achos dydw i ddim yn teimlo'r un oed â nhw, a dwi ddim yn edrych yr un oed â nhw."
Llai na 1% yn ddynion
Er gwaetha'r pryder, fe benderfynodd William beidio â chael wig gan y Gwasanaeth Iechyd.
Mae ffigyrau gan bedwar bwrdd iechyd yn awgrymu nad ydy William ar ei ben ei hun.
O'r 1,601 o gleifion wnaeth dderbyn triniaeth colli gwallt tra'n sâl a chanser yn 2018/19, dim ond 14 oedd yn ddynion.
Yn ôl gwaith ymchwil Macmillan, mae dynion yn ei chael hi'n haws delio â cholli eu gwallt o'i gymharu â merched.
Dywedodd 7% o ddynion oedd wedi colli eu gwallt mai dyma oedd yr effaith corfforol neu emosiynol anoddaf i ddelio ag ef, o'i gymharu â 25% o ferched.
"Dim ond rhai dynion fi 'di cwrdd â nhw sydd wedi sôn am golli eu gwallt," meddai Rhian Jones, sy'n nyrs arbenigol gyda Macmillan.
"Yn aml maen nhw'n teimlo fel eu bod nhw'n mynd yn hen cyn eu hoed. Ond so ni'n gwybod pam eu bod nhw ddim yn gofyn am wigs - falle bod y wigs ddim mor dda."
'Peidio â phoeni'
Fe gyrhaeddodd William drobwynt pan siaradodd gyda'i rieni tua blwyddyn a hanner wedi'r driniaeth.
"O'n i'n eistedd 'efo mam a dad a nes i ddweud: 'Oh gosh, dwi ddim am edrych sut o'n i cyn y canser'," meddai.
"Fe ddywedon nhw wrtha i beidio â phoeni, a bod yn rhaid i fi ddod dros hyn ac y bydd popeth yn iawn.
"Ers hynny dwi wedi symud trwyddo fo a chanolbwyntio ar wella fel person."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2017