Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn, sydd wedi cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.
Mae'r Fedal Ddrama yn cael ei chyflwyno am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Y ddrama sy'n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol sy'n cael ei gwobrwyo.
Mae Gareth yn derbyn Y Fedal Ddrama, sydd er cof am Urien Wiliam ac yn rhoddedig gan ei briod, Eiryth a'r plant, Hywel, Sioned a Steffan.
Y beirniaid eleni oedd Gethin Evans, Branwen Cennard a Bethan Marlow.
'Mynnu sylw o'r dechrau i'r diwedd'
Ar ôl trafod y ceisiadau eraill yn y gystadleuaeth, dywedodd Ms Marlow mai un ddrama gyrhaeddodd y dosbarth cyntaf eleni, sef Adar Papur gan Gwylan.
"Heb amheuaeth mae gan Gwylan ymwybyddiaeth o ofynion drama ac o anghenion y cyfrwng," meddai.
"Mae'r ddrama'n agor yn hynod effeithiol gan hawlio sylw o'r cychwyn un a hynny drwy ddibynnu ar y gweledol yn hytrach na'r gair.
"Mae yma hiwmor a chlyfrwch dweud ac mae adeiladwaith y stori'n grefftus ac yn mynnu sylw o'r dechrau hyd y diwedd.
"Yn ddi-os mae yma sylfaen gadarn i ddatblygu arni ac felly mae'r tri ohonom yn gytûn bod Gwylan yn haeddu'r fedal."
Dywedodd Mr Evans-Jones bod y profiad o ennill y Fedal yn "ryfeddol" a bod y beirniaid "wedi bod yn garedig iawn gyda'u sylwadau".
"Dwi wedi bod yn swp sâl gyda nerfau ers rhyw dridiau rŵan, felly roedd hi'n rhyddhad mawr fod y cyfan wedi digwydd a fy mod i heb faglu!" meddai wrth Cymru Fyw.
"O oed ifanc dwi wedi bod â diddordeb mewn gwylio dramâu, a pan o'n i'n ifanc roeddwn i'n action ryw 'chydig, er mod i'n fawr o actor.
"Ond dwi wir wrth fy modd yn mynd i weld dramâu a rhyw botsian sgwennu."
'Pawb fel adar papur'
"Drama ydy hi sy'n dilyn dau gymeriad, a'r syniad wth wraidd y ddrama yw bod pawb fel adar papur," meddai.
"Da ni'n greaduriaid cymhleth fel plygiadau adar papur, ond eto'n frau hefyd, a dyna mae'r ddrama'n ei wneud - sbïo ar freuder a chymhlethdodau'r ddau brif gymeriad wrth i'w straeon nhw orgyffwrdd."
Ychwanegodd y darlithydd bod ysgrifennu drama yn cynnig rywfaint o ddihangfa iddo.
"Wrth gwrs dwi'n cael mwynhad o'r gwaith academaidd, ond mae 'na fwynhad hefyd i gael dengid i fyd dychmygol a bod 'mond chi a'r feiro ac ymgolli mewn rhywbeth dychmygol."
Dyma'r tro cyntaf i Gareth Evans-Jones ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol, ond mae'n prysur wneud enw i'w hun ym mynd y ddrama a llenyddiaeth ar draws Cymru.
Mae ei lwyddiannau'n cynnwys Medal Ddrama'r Eisteddfod Ryng-golegol 2012, Medal 'Y Ddrama Orau yn yr iaith Gymraeg' gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn 2010 a 2012, Coron Eisteddfod Môn Paradwys a'r Fro 2016, a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn Gŵyl y Ffermwyr Ifanc 2019.
Y llynedd, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, ac mae wrthi'n cwblhau ei ail nofel.
Graddiodd â gradd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol o Brifysgol Bangor yn 2012, ac wedi hynny dilynodd gwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mangor dan gyfarwyddyd Angharad Price.
Aeth yn ei flaen i gwblhau doethuriaeth am mae bellach yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.
Yn ystod ei arddegau bu'n aelod o griw Brain, Cwmni'r Frân, ac roedd ymysg y criw cyntaf i ddilyn cynllun 'O Sgript i Lwyfan' y Frân Wen, a thros y blynyddoedd, mae wedi sgriptio dramâu ac ymgomiau ar gyfer Theatr Fach Llangefni.
Bu hefyd yn un o Awduron wrth eu Gwaith, Gŵyl y Gelli yn ystod y cyfnod 2018-2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2019